English Cymraeg

I am Rebel

gan Ross Montgomery

Oedran diddordeb: 9 i 13
Oedran darllen: 8+

Cyhoeddwr Walker Books, 2024

  • Adventure

Am y llyfr hwn

Mae Rebel yn gi da. Mae pob diwrnod yn berffaith. Mae’n deffro gyda ‘ei fachgen’ Tom, yn treulio’r dydd ar y fferm gyda Tom, ac yn mynd yn belen ar wely Tom gyda’r nos. Weithiau, mae esgyrn oen i swper hyd yn oed! Beth arall allai ci fod ei eisiau? Ond pan fydd Tom, sy’n 12 oed, yn ymuno â byddin y gwrthryfelwyr, mae’n rhaid i Rebel ddod o hyd iddo a’i achub. A all un ci bach ddilyn trywydd ei ffrind ar draws mynydd a phentref mewn pryd i’w achub rhag byddin y Brenin? 

Mae’r stori hon yn dwymgalon ac yn dorcalonnus, i gyd yn y ffordd orau bosibl. Nid oes unrhyw gŵn yn cael eu niweidio, felly mae’n ddiogel i’r rhai sy’n caru cŵn ei ddarllen - ac mae cariad Rebel at ‘ei fachgen’ mor gyffredinol y bydd hyn oed y rhai y maen well ganddyn nhw gathod yn ei garu. Mae wedi’i ysgrifennu yn llais Rebel, sy’n caniatáu i ddarllenwyr ddeall mwy nag y mae e weithiau, ac eto ceir siociau a throeon yn y stori o hyd. Mae hwn yn llyfr cyffrous ac angerddol a fyddai’n berffaith i’w ddarllen gyda’r dosbarth, neu amser gwely gan fod y penodau yn fyr ac yn llawn bwrlwm. Mae Rebel yn gi da iawn yn wir.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn