English Cymraeg

Cyfri Defaid

gan Enlli Lewis, darluniau gan Gareth Brown

Oedran diddordeb: 3 i 6
Oedran darllen: 6+

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2025

  • Picture books

Am y llyfr hwn

Pan mae’n dod at fathemateg, Mostyn y ddafad yw’r gorau yn y wlad, felly pan mae’r frenhines yn gofyn iddo gadw’r defaid eraill yn ddiogel trwy eu cyfrif nhw, mae Mostyn ar ben ei ddigon! 

Ond mae’n dod yn amlwg yn syth nad yw’r dasg hon yn mynd i fod yn un hawdd i Mostyn achos pob tro mae’n dechrau cyfri defaid mae’n cwympo i gysgu! Mae Mostyn yn torri ei galon ei fod methu cyflawni'r hyn mae wedi addo i’r frenhines ond yna mae’n cyfarfod â bugail sydd yn dioddef yr un problemau wrth drio cyfrif ei ddefaid e! Mae’r ddau yn gweithio gyda’i gilydd i feddwl am ffordd ddyfeisgar a hwyl i sicrhau na fydd yr un ohonynt yn cwympo i gysgu byth eto wrth gyfrif defaid. Mae hon yn stori lliwgar a doniol sydd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o ddatrys problemau a gweithio fel tîm.

Mae'r llyfr yma hefyd ar gael yn Saesneg, fel Counting Sheep.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn