A Little Blue Dot: Meet the planets of our solar system
gan Maren Hasenjäger
Oedran diddordeb: 5 i 9
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Mama Makes Books, 2025
Am y llyfr hwn
Rhywle yn y bydysawd enfawr hwn, mor ddisylw y gallech chi bron â’i fethu, mae dot bach glas yn hofran.
Y Ddaear yw’r dot bach glas hwn, ac nid yw’n hapus. Mae’r holl blanedau eraill yn ymddangos yn llawer mwy cyffrous na hi. Ceir y cawr Iau a’i stormydd enfawr, Gwener sy’n disgleirio’n llachar fel seren fore ac (wrth gwrs) Sadwrn â’i gylchau rhewllyd rhyfeddol. O’i chymharu â nhw, pwy fyddai fyth yn sylwi ar blaned ddiflas fel hi?
Ond, ar ddiwedd y daith o gwmpas Cyfundrefn yr Haul, mae’r planedau eraill i gyd yn dweud pa mor anhygoel yw’r Ddaear mewn gwirionedd. Maen nhw’n edmygu ei moroedd glas a’i choedwigoedd gwyrdd ac, yn fwyaf arwyddocaol oll, y bywyd sy’n ffynnu ar ei hwyneb. Mae mwy i’r dot bach glas hwn nag y mae’n ymddangos i gychwyn...
Mae’r llyfr ffeithiol hwn sydd wedi’i ddylunio’n hyfryd yn mynd â chi ar daith i gyfarfod â’r planedau, corblanedau a nodweddion arwyddocaol yng nghyfundrefn yr haul. Mae’r lluniau yn ddymunol iawn a phlanedau cyfeillgar, wedi’u personoli, lliwiau ysgafn a chynllun eglur; ac mae’r wybodaeth wedi’i chyflwyno’n dda i’w hystod oedran darged, â llawer iawn o fanylion i feddyliau chwilfrydig.
Byddai’r llyfr swynol hwn yn gweithio’n dda fel ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect celf yn seiliedig ar gyfundrefn yr haul.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
-
Megs
5 i 9 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
5 i 9 years
-
20 o bobl Lliwgar Cymru
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 6 i 7 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6–7 oed