Beat This Book
gan Howard Calvert, darluniau gan Gemma Correll
Oedran diddordeb: 6 i 8
Cyhoeddwr Happy Yak, 2024
Am y llyfr hwn
A allwch chi guro’r llyfr hwn?
Wrth i chi droi’r tudalennau, mae Book yn gosod mwy a mwy o heriau i’r darllenydd, rhai yn ddwl iawn a rhai dim ond ychydig bach, bach yn ddwl. A allwch chi ddod o hyd i’r ci lleiaf ar y dudalen? A allwch chi wneud siâp gyda’ch corff? A allwch chi ddweud gair yn uchel neu’n araf neu mewn llais main? Pa un yw’r fanana fwyaf bananas? A wnewch chi guro Book yn yr holl heriau hyn?
Mae hwn yn llyfr eithriadol o ddifyr. Mae mewn fformat llyfr lluniau, ond nid yw ar gyfer plant bach iawn. Plant 4 oed a hŷn fyddai’n cael y mwyaf allan ohono, gan fod angen iddyn nhw ddeall gwahanol gysyniadau syml (fel siapiau a chwarae ar eiriau), a gallu dilyn y cyfarwyddiadau.
Mae’r holl gwestiynau y mae Book yn eu gofyn yn sicrhau bod y darllenydd yn cymryd rhan weithredol yn y profiad - mae’n rhaid iddyn nhw feddwl, dewis, creu, ac mae’n llawer o hwyl.
Mae lluniau trawiadol a lliwgar Gemma Correll yn cyd-fynd yn berffaith â natur awdurdodus Book, ac mae’r tudalennau wedi’u dylunio fel bod y testun yn eglur ac yn ddi-lol, yn aml mewn swigod siarad. Mae’r nodiadau ychwanegol yn gwneud unrhyw gyfarwyddiadau (fel plygu tudalen) yn amlwg iawn hefyd, fel y gall oedolyn gyfarwyddo plentyn os oes angen. Doniol dros ben.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Shy Book
5 i 9 years
-
Gotcha!
5 i 9 years
-
Cyfri Defaid
3 i 7 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: ar gyfer plant 6 i 7 oed
Y llyfrau gorau o 2024–25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6–7 oed