Astrophysics for Supervillains: A Gruesome Guide to Conquering the Universe for Supervillains in Training
gan Dr Matthew Bothwell, darluniau gan Nathan Reed
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 9 i 11
Cyhoeddwr DK, 2024
Am y llyfr hwn
A allech chi gwympo’r Lleuad i mewn i’r Ddaear? Beth sy’n digwydd os byddwch yn taflu rhywun i mewn i dwll du? (Maen nhw’n troi’n sbageti!) Ac a allech chi oroesi ar Plwton? (Annhebygol – mae’r tymheredd yn -230 gradd.) Maen nhw i gyd yn syniadau diddorol a morbid braidd, fodd bynnag, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o goncro’r bydysawd.
Cyflwynir y llyfr difyr ac addysgiadol hwn fel canllaw i astroffiseg i ddarpar uwch-ddihirod, ac mae’n trafod pynciau fel: beth yw’r planedau mwyaf marwol yng nghyfundrefn yr haul? Pam mae’r haul yn ffrwydrad niwclear i bob pwrpas? Sut all tyllau du fod yn ddefnyddiol i ddihirod sy’n bwriadu cymryd y bydysawd drosodd? Ac, yn fwyaf defnyddiol oll efallai, sut ellir dinistrio’r Ddaear?
Ceir digonedd o wyddoniaeth yma, ond mae’r cwbl yn hawdd ei ddeall ac yn cael ei gyflwyno mewn fformat du a gwyn bywiog â llwyth o amrywiaeth, ffeithiau difyr, ffontiau mawr, a phenawdau croch sy’n golygu bod y llyfr yn teimlo fel hwyl. Mae’r dôn yn ddoniol a cheir llawer o luniau cartŵn drwy’r llyfr. Llawer o hwyl a delfrydol ar gyfer plant oed cynradd hŷn.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
20 o bobl Lliwgar Cymru
5 i 9 years
-
Become a Genius in a Year
5 i 14 years
-
You and Your Body
5 i 9 years
-
Slug Life
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 8 i 9 oed
Y llyfrau gorau o 2025-6 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.