20 o bobl Lliwgar Cymru
gan Natalie Jones, darluniau gan Telor Gwyn
Oedran diddordeb: 7+
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Lolfa, 2024
Am y llyfr hwn
Mae’r llyfr trawiadol a rhyngweithiol yma yn rhannu bywydau 20 o’r bobl Ddu ac Asiaidd mwyaf diddorol ac ysbrydoledig sydd yn byw ac yn gweithio yng Nhymru gyda darllenwyr ifanc. O feirdd i chwaraewyr rygbi, o ddoctoriaid i gyfreithwyr, heb os, mae’r llyfr hwn yn llwyddo i uwch-oleuo yr ystod eang o dalentau a dangosir gan bobl Ddu ac Asiaidd yng Nghymru heddiw. Bydd y llyfr hwn yn cynnig modelau rôl i rai darllenwyr, wrth wella dealltwriaeth eraill o’r byd o’u cwmpas. Mae pob tudalen yn cynnwys darlun penigamp o berson penodol ynghŷd â phytiau bach o wybodaeth sydd am eu bywydau. Hefyd, ar waelod pob tudalen mae cwestiynau, ffeithiau hwylog a chod QR sydd yn galluogi darllenwyr ifanc i ymgysylltu fwy fyth gyda’r llyfr. Yn ogystal mae amrywiaeth o weithgareddau yng nghefn y llyfr yn cynnwys croeseiriau a gemau geiriau sydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i ddarllenwyr ifanc adlewyrchu ar y bobl ar themâu pwysig sydd yn cael eu cyflwyno yn y llyfr hwn.
Cyhoeddwyd y llyfr yma yn Gymraeg.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
5 i 9 years
-
Fy Bindi
5 i 9 years
-
Megs
5 i 9 years
-
Ysgol Arswyd
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: llyfrau o Gymru
Rhai o'n hoff lyfrau a gyhoeddwyd yn Gymraeg blwyddyn eleni.