Dechrau Da i Blant Bach: rhagor o lyfrau gwych i blant 1-2 oed / Bookstart Toddler Wales: more brilliant books for 1-2s
Llyfrau wedi'u dewis â llaw yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n berffaith ar gyfer plant 1-2 oed, wedi'u dewis i'ch helpu i gael mwy o becyn Dechrau Da i Blant Bach.
Hand-picked books in Welsh and English that are perfect for children aged 1-2, selected to help you get more from the Bookstart Toddler pack
-
Amser Gwely Panda/ Time for Bed Panda (bilingual)
Author: Elin Meek Illustrator: Jo Lodge
Publisher: Dref Wen
Mae’n bryd i’r panda hyfryd hon â’r llygaid gwgli baratoi i fynd i’r gwel! Dyma lyfr bwrdd annwyl llawn cwtshys i’r plantos bach.
It's time for this adorable googly-eyed panda to get ready for be! A delightfully cuddly and sweet board book for little ones.
-
Tywydd Elfed/ Elmer’s Weather (bilingual)
Author: David McKee
Publisher: Dref Wen
Yn law neu'n hindda, mae Elfed wrth ei fodd yn chwarae!
Whatever the weather, Elmer the elephant always has fun.
-
Dilyn dy Fys: Y Byd Hud/ Magic Kingdom (bilingual)
Author: Really Decent Books Adapted by Lowri Head Illustrator: Barbi Sido
Publisher: Rily Publications
Dewch ar daith ddirgel hudol gyda’ch ffrindiau newydd, trwy’r holl olygfeydd gwahanol!
Follow new friends on a magical adventure through the different scenes inside!
-
Dwmbwr Dambar / Rumble Tumble (bilingual)
Author: Adapted by Elin Meek Illustrator: Ben Newman
Publisher: Dref Wen
Stori rhowlio a phowlio ddoniol, gyda thudalennau mewnol llai a geiriau swnllyd i blant ac oedolion ddweud gyda’i gilydd.
Funny and heart-warming, this entertaining picture book for pre-schoolers explores the familiar experience of falling over, and is ideal to encourage language and storytelling development.
-
Rhifau’r Fferm/ Farm Numbers (bilingual)
Author: Really Decent Books adapted by Catrin Wyn Lewis
Publisher: Rily Publications
Dilyna’r hwyaden fach a’i ffrindiau wrth iddyn nhw grwydro a chwarae chwifio ar y fferm.
Follow little duckling and her friends waggling and waving on the farm!