Hwiangerddi

Publisher: Gomer

Mae is-deitl y llyfr hardd hwn yn ei ddisgrifio i'r dim; casgliad hyfryd o hwiangerddi i bawb.

Dyma gasgliad o hanner cant o hwiangerddi a rhigymau traddodiadol amrywiol, gyda rhigwm neu gân at bob achlysur - o ddydd Mawrth Ynyd i ganeuon Calennig – a phob tywydd hyd yn oed. Mae diwyg clir y tudalennau, ynghyd â darluniau arbennig Helen Flook sy'n cyd-fynd â phob hwiangerdd, yn moderneiddio a dod â phob un rhigwm yn fyw.

Bydd plant ac oedolion yn siŵr o fod wrth eu boddau yn rhannu'r llyfr hwn, yn wir, mae'n llyfr delfrydol i bawb sydd â phlant bach neu sy'n gweithio â phlant bach.


This beautiful book’s subtitle describes it perfectly: Casgliad hyfryd o hwiangerddi i bawb (a lovely collection of nursery-rhymes for everyone).

This is a collection of 50 traditional nursery-rhymes and lullabies has a rhyme for every occasion – from Shrove Tuesday to New Year – and even every weather. The pages’ clear lay outs, along with Helen Flook’s delightful illustrations modernise and bring each rhyme to life.

Children and adults alike will enjoy sharing this book. Indeed, it’s ideal for anyone who has or who works with young children.

More books like this

Mwnci Bach / Little Monkey

Author: Marta Altes Adapted by Elin Meek

Lleia' i gyd wyt ti, mwya' i gyd y gall dy anturiaethau di fod. Stori ddwyieithog fywiog wedi'i darlunio'n hyfryd am fwnci bach yn mentro allan i'r byd mawr yn y jyngl. 


The smaller you are, the bigger your adventures can be! A lively bilingual story, beautifully illustrated, about a little monkey venturing out into the great big world of the jungle.&n…

Read more about Mwnci Bach / Little Monkey

Diwrnod Prysur Twts

Author: Chris Glynn

  • Mae lluniau Twts yn llawn teimlad wrth iddi gael diwrnod prysur a llawer o hwyl
  • Mae'r llyfrau yn y gyfres yn ddwyieithog, sy'n wych ar gyfer plant bach a babanod sy'n dysgu ac sy'n dod yn gyfarwydd â'r iaith Gymraeg

Read more about Diwrnod Prysur Twts

Share this book with your friends

Use our Bookfinder to discover the perfect children's books for every age...