Enillwch set wych o 5 llyfr Cymraeg a dwyieithog gan Gyhoeddiadau Rily.
Mae gennym un set o lyfrau i’w hennill.
Amser Canu, Blant! Dyma lyfr Cymraeg hyfryd sy’n cynnwys hwiangerddi modern a thraddodiadol i blant eu dysgu a’u canu.
Cysga’n Iach, Farchog Bach Mae’n cynnwys rhigwm hwiangerdd Cymraeg i helpu plant reoli’u pryder a’u helpu i gysgu’n braf.
Faint Ydw I’n dy Garu? / How Much Do I Love You? Dyma stori hyfryd am gariad Mami Arth am ei baban, yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd plant wrth eu bodd gyda’r gyfrol ddwyieithog Lliwiau'r Anifeiliaid / Animal Colours sy’n cynnwys pyped bys hwyliog a rhyngweithiol.
Mae’r Olwynion ar y Bws / The Wheels on the Bus Dyma fersiwn ar ffurf llyfr stori a llun hwyliog o’r rhigwm traddodiadol y gall pawb ei fwynhau yn Gymraeg a Saesneg.
Mae gennym set o bum llyfr Cymraeg a dwyieithog gan Rily i’w hennill, a’r cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud i gael cyfle i ennill yw ateb y cwestiwn isod a gadael eich manylion erbyn y dyddiad cau, 11pm nos Iau 26 Awst 2021.
Amser Rhigwm Mawr Cymru
Ymunwch gyda ni ar gyfer dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Hwyl rhigymu i bawb!