Croeso i’n Harweiniad i Adnoddau ar gyfer Partneriaid

Mewn cydweithrediad â phartneriaid fel chi, sy’n gweithio i helpu teuluoedd i brofi buddiannau gwerthfawr darllen, rydym wedi datblygu cyfres o adnoddau hyblyg i’ch helpu i gyflwyno’r pecynnau Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Meithrin.

Adnoddau a ddarperir ar y dudalen hon:

  • Disgrifio nodau’r rhaglen
  • Tynnu sylw at fuddiannau darllen i deuluoedd yn y Blynyddoedd Cynnar
  • Cynnig syniadau ar gyfer defnyddio’r adnoddau yn eich lleoliad, sydd wedi’u hysbrydoli gan bartneriaid eraill a’r hyn y gwyddom sy’n gweithio i deuluoedd
  • Eich helpu i rannu’r hyn sy’n digwydd yn eich lleoliad gyda theuluoedd ar gyfryngau cymdeithasol
  • Eich helpu i gyflwyno sesiwn hyfforddi/​briffio yn lleol

Rydym yn sylweddoli bod amser yn brin ac na fyddwch, o bosibl, yn gallu edrych drwy’r holl adnoddau yn yr arweiniad, felly rydym wedi nodi’r elfennau allweddol canlynol:

Os oes gennych chi 5 munud, fe allwch chi wneud y canlynol…

  • Gwylio ein fideos byr am BookTrust a’r hyn sydd yn eich pecynnau 
  • Darllen y wybodaeth  sy’n esbonio mwy am y rhaglen 

Os oes gennych chi hyd at awr, fe allwch chi wneud y canlynol…

Nodwch fod y fideo hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Os oes gennych chi fwy o amser…

Efallai yr hoffech gynllunio a chyflwyno sesiwn hyfforddi i gydweithwyr sy’n rhoi’r adnoddau gan ddefnyddio’r cyflwyniad hwn:

Mae ein staff yn dangos sut i rannu llyfrau â’r plant, gan ddangos sut i ddarllen y straeon yn rhyngweithiol ac mewn ffordd sy’n addas i’w plentyn, gan roi hwb i’w hyder. Rydym yn rhoi pwyslais ar siarad, chwarae a chael hwyl â llyfrau – nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid eistedd yn dawel a llonydd bob tro, oni bai bod y plentyn eisiau gwneud hynny.

Canolfan i Deuluoedd yn Swydd Hertford

Ateb eich cwestiynau

Amcan rhaglen Dechrau Da i Blant Bach a Chyn Ysgol/​Meithrin yw:

  • Darparu offer a gwybodaeth i deuluoedd targed er mwyn peri eu bod yn cael ei hysbrydoli a’u cyffroi ynghylch rhannu straeon gyda’i gilydd
  • Darparu offer a gwybodaeth i’n partneriaid i gefnogi’u gwaith gyda theuluoedd
  • Cyfrannu at ddysgu pa gefnogaeth sydd ei angen ar deuluoedd targed ar gyfer rhannu straeon gyda’i gilydd yn y blynyddoedd cynnar – a ble, pryd a sut y mae orau i BookTrust a phartneriaid ddarparu’r gefnogaeth hon.
  • Dod o hyd i lwybrau llwyddiannus ar gyfer cyrraedd at deuluoedd.
  • Dysgu sut y gallwn gefnogi gwaith ein partneriaid gyda theuluoedd yn well

Ein cynulleidfa darged ar gyfer yr adnoddau hyn yw teuluoedd incwm is gyda phlant 1–4 oed, i’w cefnogi i ymgorffori darllen ar y cyd yn rhan reolaidd o’u bywydau. Cynlluniwyd y cynnig hwn mewn cydweithrediad â phartneriaid a chyda theuluoedd o’n grwpiau targed.

Mae BookTrust wedi ymrwymo i gynnig mwy o gefnogaeth wedi’i dargedu i deuluoedd o gefndiroedd incwm is oherwydd gwyddom mai’r plant hyn sy’n debygol o elwa fwyaf o ddarllen yn rheolaidd a darllen o ddewis. Rydyn ni’n gweithio gyda rhwydwaith eang o bartneriaid cyflawni i gyrraedd at deuluoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ogystal â’r rheiny sy’n byw mewn clytiau o ddifreintedd mewn ardaloedd mwy cyfoethog.

Mae partneriaid wedi defnyddio sawl dull amrywiol er mwyn dod o hyd i’r llwybrau gorau i gyrraedd teuluoedd; yn gyffredinol, gelid disgrifio’r rhain fel:

  • Daearyddol – ble mae partneriaid wedi amlygu lleoliadau neu lwybrau sy’n gweithio mewn ardaloedd o ddifreintedd uwch

A / neu

  • Amlygu llwybrau neu sefydliadau sydd, drwy’u hanfod, yn cyrraedd at deuluoedd yn ein grwpiau targed. 

Pecyn Storïwr 

  • Mae’r pecyn Storïwr yn becyn offer a ddatblygwyd i gefnogi ein partneriaid i rannu straeon gyda theuluoedd. Gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau gyda theuluoedd fel rhan o sesiynau dweud stori mewn grŵp, neu gyda theuluoedd unigol yn y cartref.
  • Gallwch rannu’r llyfrau, defnyddio propiau i’w helpu i ddod yn fyw, ac archwilio’r cardiau gweithgaredd i gael mwy o awgrymiadau ynghylch sut i ymestyn y straeon.
  • Helpwch y teuluoedd i weld sut y gallan nhw ail-greu’r profiad adrodd stori gartref drwy ddangos beth rydych chi’n ei wneud, codi’u hyder, a phwysleisio nad oes angen iddo fod yn berffaith er mwyn i’r plentyn ei fwynhau! 

i Blant Bach

  • Cynlluniwyd pecynnau Dechrau Da i Blant Bach ar gyfer plant 1–2 oed. Hoffem eich annog i weld hyn fel argymhelliad yn unig. Gwyddom fod pob plentyn yn wahanol, ac am mai chi sy’n gweithio’n agos gyda theuluoedd, chi sydd yn y lle gorau i wybod pryd y gallwch roi’r pecynnau’n anrheg er mwyn cyd-fynd â chamau datblygiad y plentyn. Wrth roi’r pecynnau, gallwch dynnu sylw at y negeseuon a argraffwyd ar amlen y pecyn, fel sut y gallan nhw gael gafael ar ragor o weithgareddau ar ein tudalen hwyl gartref, neu sut y gallan nhw ymuno â’u llyfrgell leol.
  • Os oes gennych amser, gallech hyd yn oed roi cynnig ar fodelu ar gyfer teuluoedd i ddangos sut y gellid defnyddio’r llyfrau a’r adnoddau gyda phlentyn – dangos, er enghraifft, sut y gall rhieni / gofalwyr ddefnyddio’r pyped bys fel cymeriad y gellir adrodd y stori neu ganu rhigwm drwyddo. 

Cyn Ysgol

  • Cynlluniwyd pecynnau Dechrau Da Cyn Ysgol ar gyfer plant 3–4. Hoffem eich annog i weld hyn fel argymhelliad yn unig. Gwyddom fod pob plentyn yn wahanol, ac am mai chi sy’n gweithio’n agos gyda theuluoedd, chi sydd yn y lle gorau i wybod pryd y gallwch roi’r pecynnau’n anrheg er mwyn cyd-fynd â chamau datblygiad y plentyn. Wrth roi’r pecynnau, gallwch dynnu sylw at y negeseuon a argraffwyd ar amlen y pecyn, fel sut y gallan nhw gael gafael ar ragor o weithgareddau ar ein tudalen hwyl gartref, neu sut y gallan nhw ymuno â’u llyfrgell leol.
  • Os oes gennych amser, gallech hyd yn oed roi cynnig ar fodelu ar gyfer teuluoedd i ddangos sut y gellid defnyddio’r llyfrau a’r adnoddau gyda phlentyn – dangos, er enghraifft, sut y gellir defnyddio Colours with a Ladybird i helpu plant i ddatblygu’u sgiliau echddygol manwl drwy ddilyn y llwybrau â bysedd. 

Law yn llaw â’r pecynnau papur, rydyn ni hefyd wedi creu tudalen ddigidol hwyl gartref, ble gall teuluoedd ddod o hyd i ragor o weithgareddau, fideos i gyd-ddarllen â nhw, awgrymiadau am lyfrau a chyngor ar ddarllen gyda’u plentyn. Gall teuluoedd gael mynediad i’r Hyb drwy’r cod QR ar gefn eu pecyn, neu drwy fynd i booktrust.org.uk/how-we-help/parents-families/have-fun-at-home

Mae cyhoeddwyr llyfrau Dechrau Da i Blant Bach, Cyn Ysgol a Storïwr wedi rhoi caniatâd i awdurdodau lleol gynnal darlleniadau byw a darlleniadau wedi’u recordio. 

Dylid rhannu darlleniadau wedi’u recordio drwy gyfrwng grwpiau caeedig / grwpiau nad ydynt ar gael yn gyhoeddus yn unig. 

Noder: I gael gwybodaeth lawn am hyd dilysrwydd y caniatâd, beth a ganiateir, a pha gydnabyddiaethau sydd angen, lawrlwythwch y ddogfen ganiatâd ddiweddaraf drwy glicio yma.

Yn Lloegr

Dim ond un rhan o daith ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust yw Dechrau Da i Blant Bach a Cyn Ysgol.

Bydd pob babi a enir yn Lloegr yn derbyn pecyn Dechrau Da Babi, a roddir yn anrheg gan Ymwelwyr Iechyd, Cofrestrwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes y blynyddoedd cynnar. Pecyn llyfrau rhad ac am ddim yw hwn, gydag adnoddau a gynlluniwyd i gefnogi ac annog teuluoedd i ddarllen gyda’u plentyn mor gynnar â phosib. 

Rydyn ni hefyd yn cynnig Amer Stori BookTrust, mewn llyfrgelloedd lleol, gyda’r nod o annog teuluoedd â phlant 0–5 oed – yn enwedig y rheini ar incwm is – i archwilio ystod o lyfrau a straeon. Fel rhan o’r cynnig, gall teuluoedd fwynhau gweithgareddau rhad ac am ddim, sesiynau Amser Stori a lle croesawgar i gael hwyl gyda’i gilydd – yn ogystal â chael cynnig cyfle i bleidleisio dros eu hoff stori ar restr fer Gwobr Amser Stori BookTrust.

Rydyn ni hefyd yn cynnig pecynnau AAY a llyfrau dwyieithog ac adnoddau ar gyfer plant 0–5 oed, i gefnogi mynediad i lyfrau a’r cyfle i fwynhau darllen.

I wybod mwy am sut i roi’r pecynnau hyn yn anrheg, ac am wybodaeth am ein holl gynigion blynyddoedd cynnar, ewch i booktrust.org.uk/how-we-help/programmes

Yng Ngogledd Iwerddon

Dim ond un rhan o daith ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust yw Dechrau Da i Blant Bach a Chyn Ysgol.

Bydd pob babi a enir yng Ngogledd Iwerddon yn derbyn pecyn Dechrau Da Babi, a roddir yn anrheg gan eu Hymwelydd Iechyd, fel arfer yn ystod gwiriad 12–14 wythnos neu 6–9 mis. Pecyn rhad ac am ddim yw hwn, sy’n cynnwys llyfr ac adnoddau, a gynlluniwyd i gefnogi ac annog teuluoedd i ddarllen gyda’u plentyn mor gynnar â phosib, ac fe’i ariennir yn rhannol gan yr Adran Addysg.

Wrth i blant ddechrau yn yr ysgol, gwyddom y gall bywyd gartref fod yn brysur ac y gall fod yn anodd cydbwyso gwaith cartref â darllen er pleser. Gwyddom fod cyd-ddarllen yn cael argraff gadarnhaol ar ddychymyg, iaith a llesiant emosiynol plant. Gall cyd-ddarllen yn rheolaidd fel teulu hefyd greu lle hwyliog a diogel ble gall plant fynegi’u hunain. Ariennir ein pecynnau Amser Darllen, a roddir i bob disgybl Cynradd Un, gan yr Awdurdod Addysg, ac mae pob pecyn yn cynnwys cynghorion gwych ar gyfer rhannu straeon fel teulu, yn ogystal â rhai deunyddiau creadigol er mwyn galluogi plant i archwilio’r stori y tu hwnt i’r llyfr.

I wybod mwy am sut i roi’r pecynnau hyn yn anrheg, ac am wybodaeth am ein holl gynigion blynyddoedd cynnar, ewch i booktrust.org.uk/how-we-help/programmes

Yng Nghymru

Dim ond un rhan o daith ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust Cymru yw Dechrau Da i Blant Bach a Meithrin.

Bydd pob babi a enir yng Nghymru’n derbyn pecyn Dechrau Da Babi, a roddir yn anrheg gan eu Hymwelydd Iechyd, fel arfer yn ystod yr Adolygiad Iechyd Teuluol chwe mis, ac yna becyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar adeg yr Adolygiad Iechyd Teuluol 27 mis. Mae’r ddau becyn yn cynnwys llyfr dwyieithog o safon uchel ac adnoddau, a gynlluniwyd i gefnogi ac annog teuluoedd i ddarllen gyda’u plentyn mor gynnar â phosib.

Mae cynnig Dechrau Da hefyd yn cynnwys llyfrau dwyieithog i deuluoedd ble mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol. Rhoddir y llyfrau hyn yn anrheg yn ychwanegol at y llyfrau yn y pecynnau Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar.

Mae Pori Drwy Stori yn rhaglen ddwyieithog gyffrous ar gyfer plant oedran Meithrin a Derbyn yng Nghymru. Bydd plant sy’n cymryd rhan yn derbyn llyfrau, rhigymau, gweithgareddau a gemau sy’n cefnogi eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llafaredd yn y Cyfnod Sylfaen. Cefnogir ysgolion a meithrinfeydd hefyd gyda hyfforddiant ac adnoddau i ysbrydoli ymgysylltiad creadigol â theuluoedd.

Rydyn ni hefyd yn cynnig Amser Rhigwm Mawr Cymru mewn llyfrgelloedd lleol, gyda’r nod o annog teuluoedd â phlant 0–5 oed – yn enwedig y rheini ar incwm is – i archwilio ystod o lyfrau a straeon. Fel rhan o’r cynnig, gall teuluoedd fwynhau gweithgareddau rhad ac am ddim, sesiynau Amser Stori a lle croesawgar i gael hwyl gyda’i gilydd – yn ogystal â chael cynnig cyfle i bleidleisio dros eu hoff stori.

Bob mis Chwefror, gwahoddir lleoliadau blynyddoedd cynnar a theuluoedd i ymuno â ni ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru, ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Dyma hwyl y rhigwm i bawb!

I wybod mwy am sut i roi’r pecynnau hyn yn anrheg, ac am wybodaeth am ein holl gynigion blynyddoedd cynnar, ewch i booktrust.org.uk/how-we-help/programmes

Fe wnaethon ni werthuso cam peilot y rhaglen (Mehefin 2022 – Mehefin 2024) drwy gynnal arolwg i rieni a gofalwyr, arolwg ymysg partneriaid, ac ymweliadau â sawl lleoliad i wylio’r adnoddau ar waith ac i siarad â theuluoedd a phartneriaid am eu profiadau gyda’r rhaglen.

Mesurodd y gwerthusiad lwyddiant y peilot yn erbyn sawl dangosydd effaith, gan ganfod fod y cynnig yn gweithio er mwyn tanio brwdfrydedd teuluoedd a’u gwybodaeth ynghylch manteision darllen, a ffyrdd gwahanol o rannu llyfrau a straeon gyda’i gilydd, yn ogystal â’u cefnogi a’u hannog i ddarllen mwy o ganlyniad. Er enghraifft: 

  • Roedd teuluoedd incwm isel yn fwy tebygol o ddysgu rhywbeth newydd am fanteision darllen (77%) na theuluoedd yn gyffredinol (67%), ac am ffyrdd gwahanol o rannu straeon â’u plant (82%, o’i gymharu â 78% o deuluoedd yn gyffredinol).
  • Dywedodd 77% o deuluoedd fod y cynnig wedi’u hybu i ddarllen a rhannu straeon yn fwy gyda’u plant. Roedd hyn yn arbennig o nodedig ymysg teuluoedd incwm is (84%).

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn a ddysgwyd gennym yn y peilot yn ein hadroddiad cryno o werthusiad Blwyddyn 1.

Yn dilyn y cyfnod peilot mae ein cynigion Blynyddoedd Cynnar BookTrust bellach yn rhan greiddiol o daith ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust. Byddwn ni’n parhau i gynnal arolygon ar gyfer teuluoedd a phartneriaid gan ddefnyddio’r cynnig hwn i’w galluogi i ddarparu adborth gwerthfawr am y gwahaniaeth y mae’n ei wneud, a sut y gellid ei wella. 

E‑bostiwch [email protected] os gwelwch yn dda, gan nodi eich awdurdod lleol, a daw un o’n Rheolwr Partneriaeth BookTrust i gyswllt â chi.