Adroddiad Effaith Dechrau Da

Archwiliwch adroddiad effaith Dechrau Da ar gyfer 2025/26 a dysgwch sut rydym yn gweithio ym mhob cymuned yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i annog teuluoedd â phlant ifanc i ddarllen.

Sesiwn Amser Stori Dechrau Da mewn llyfrgell 

Ynglŷn â Dechrau Da

Mae darllen ar y cyd yn cefnogi datblygiad plant. Mae’n creu cyfleoedd ar gyfer cysylltu a chyfathrebu, gan helpu i fagu arferion gofalu ymatebol. Mae’n helpu i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol gartref, gan gefnogi datblygiad iaith, sgiliau llythrennedd cynnar a llesiant.

Mae Dechrau Da yn cefnogi plant a theuluoedd ar gamau allweddol o’r blynyddoedd cynnar drwy gyfres o raglenni ar sail tystiolaeth, sydd i gyd wedi’u cynllunio i wneud darllen a rhannu straeon yn hawdd, yn hygyrch ac yn bleserus. Mae rhaglenni Dechrau Da yn rhoi mynediad at lyfrau ac adnoddau am ddim, canllawiau ar sail tystiolaeth a negeseuon ar sail cryfderau i deuluoedd, ynghyd â chymorth gan bartneriaid blynyddoedd cynnar lleol dibynadwy ac ar eu cyfer. Mae Dechrau Da yn cyfuno cyrhaeddiad cenedlaethol â darpariaeth leol hyblyg er mwyn ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol, gan ddefnyddio rhwydwaith sefydledig o bron i 30,000 o bartneriaid blynyddoedd cynnar mewn canolfannau teuluol a lleoliadau amlasiantaethol eraill, gwasanaethau iechyd, llyfrgelloedd a sefydliadau cymunedol. 

Mae Dechrau Da yn gweithio gyda phartneriaid i nodi’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyrraedd teuluoedd, gan ddarparu cymorth drwy wasanaethau cyffredinol yn ogystal â llwybrau sy’n canolbwyntio ar gyrraedd teuluoedd ar incwm isel, plant ag anghenion ychwanegol neu blant o gefndiroedd teuluol bregus.

Ein cyrhaeddiad

Gwnaeth dros 1.1 miliwn o blant a theuluoedd, ar draws pob cymuned yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gymryd rhan mewn rhaglenni Dechrau Da. 

Cyrhaeddodd Dechrau Da Babi 568,000 o fabanod (93% o’r holl fabanod a anwyd yn 2025/26).

Cyrhaeddodd Dechrau Da i Blant Bach a Phlant Cyn Ysgol 445,600 o blant rhwng 1 a 4 oed, gan gynnwys 37% o’r holl blant yn yr ystod oedran honno sy’n byw mewn cartrefi incwm isel. 

Cymerodd dros 60,000 o blant rhwng 0 a 5 oed ran yn Amser Stori Dechrau Da yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. (O’r rhain, roedd 37% yn newydd i’r llyfrgell, ac roedd 57% yn dod o aelwydydd incwm isel). 

Yng Nghymru, cyrhaeddodd rhaglenni dwyieithog y Blynyddoedd Cynnar a Pori Drwy Stori 71,800 o blant.

Gwyddom fod y galw yn fwy na’r hyn y gallwn ei ateb ar hyn o bryd. 

Prif ganfyddiadau

1. Adeiladu ar gryfder teuluoedd

Drwy annog mwynhad a chysylltiad drwy ddarllen ar y cyd, mae Dechrau Da Babi, Plant Bach, Cyn Ysgol ac Amser Stori yn helpu teuluoedd i wneud darllen yn rhan reolaidd o fywyd teuluol bob dydd: 

  • Mae 83% o rieni a gofalwyr yn dweud bod Dechrau Da yn creu mwy o gyfleoedd i dreulio amser o ansawdd gyda’u plentyn. 
  • Mae 85% o rieni a gofalwyr yn dweud bod darllen a rhannu llyfrau o becynnau Dechrau Da wedi eu helpu i deimlo’n agosach at eu plentyn. 
  • Roedd 97% o rieni a gofalwyr wedi mwynhau defnyddio llyfrau a gweithgareddau Dechrau Da.

2. Gwneud darllen ar y cyd yn haws

Mae Dechrau Da yn cefnogi teuluoedd i sefydlu arferion darllen drwy fagu hyder a gwybodaeth, a thrwy wneud i ddarllen deimlo’n haws ac yn fwy cyraeddadwy: 

  • Dysgodd 76% o rieni a gofalwyr rywbeth newydd am ffyrdd o ddarllen neu rannu llyfrau a straeon gyda’u plentyn. 
  • Mae 51% o rieni a gofalwyr yn dweud mai’r llyfrau hyn oedd rhai o’r llyfrau cyntaf a oedd ganddynt ar gyfer eu plentyn. 
  • Mae 80% o rieni a gofalwyr sy’n derbyn pecyn Dechrau Da Babi, a 77% o rieni a gofalwyr sy’n derbyn pecyn i Blant Bach/​Cyn Ysgol, yn dweud eu bod yn darllen neu’n rhannu llyfrau a straeon yn amlach gyda’u plentyn erbyn hyn.

3. Ymgorffori darllen ar y cyd o fewn cymorth teuluol presennol

Drwy ymgorffori cymorth darllen mewn gwasanaethau a lleoliadau cymunedol presennol, mae Dechrau Da yn creu cyfleoedd cysylltiedig i deuluoedd gael profiad o gymorth darllen. Mae Dechrau Da yn adeiladu ar arbenigedd ac arferion y rhai sydd eisoes yn gweithio gyda theuluoedd, drwy ddarparu canllawiau, offer a chymorth ar sail tystiolaeth i bartneriaid: 

  • Mae 81% o bartneriaid yn credu bod Dechrau Da yn helpu i gefnogi amcanion cyffredinol eu sefydliad. 
  • Mae dros 90% o bartneriaid yn dweud bod rhaglenni Dechrau Da yn bwysig i’w sefydliad – yng Nghymru, mae 100% o bartneriaid yn dweud hyn. 

4. Adeiladu ecosystemau darllen cynaliadwy

Drwy Dechrau Da, mae BookTrust yn darparu seilwaith cenedlaethol ar gyfer darllen ar y cyd yn y blynyddoedd cynnar, gan gefnogi uchelgeisiau polisi’r llywodraeth ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys y rhai a nodwyd ar gyfer Lloegr yn Y Dechrau Gorau Mewn Bywyd. 

  • Mae Dechrau Da Babi wedi’i sefydlu o fewn llwybrau ymweliadau iechyd, gan integreiddio cymorth darllen i’r cyswllt arferol â phob teulu sydd â babanod newydd. 
  • Mae Dechrau Da i Blant Bach/​Cyn Ysgol wedi’i ymgorffori o fewn systemau lleol ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gyda thros 7,400 o lwybrau i gyrraedd teuluoedd ar incwm isel. Yn 2025/26, roedd y llwybrau hyn yn cynnwys 5,950 o leoliadau addysg gynnar, 620 o leoliadau amlasiantaethol, 280 o wasanaethau iechyd, a 190 o elusennau a sefydliadau cymunedol. 
  • Defnyddir Amser Stori Dechrau Da mewn dros 90% o lyfrgelloedd cyhoeddus – cyfanswm o 2,400 o lyfrgelloedd yn 2025/26. Mae partneriaid mewn llyfrgelloedd yn gweithio gyda sefydliadau lleol gan gynnwys lleoliadau addysg gynnar, canolfannau teuluol, canolfannau plant, gwasanaethau cymorth cynnar a chymdeithasau tai i gysylltu teuluoedd â phlant ifanc â gwasanaethau llyfrgell.

Lawrlwytho’r adroddiad llawn a’r crynodeb gweithredol

Yn yr adroddiad mae: 

  • Ein model effaith sy’n esbonio ein dull system gyfan o ymdrin â newid. 
  • Ymchwil sy’n sail i’n rhaglenni ar sail tystiolaeth. 
  • Prif ganfyddiadau ynghylch effaith Dechrau Da yn 2025/26. 
  • Profiadau partneriaid a theuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw. 

Darllenwch ein hadroddiadau effaith Dechrau Da cynharach

Mae’r adroddiadau hyn hefyd ar gael yn Saesneg. [placeholder link]

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn [PDF] 

Cyf : BookTrust (2025) Bookstart Toddler and Pre-schooler Impact Report 2024–25. Leeds: BookTrust 

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn [PDF] 

Cyf: BookTrust (2024) BookTrust Early Years offers: Year two headline findings. Leeds: BookTrust 

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn [PDF] 

Cyf: BookTrust (2023) BookTrust Early Years offers: Year one evaluation findings. Leeds: BookTrust 

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn [PDF] 

Cyf: BookTrust (2025) BookTrust Storytime 24–25 evaluation findings report. Leeds: BookTrust 

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn [PDF]  

Cyf: BookTrust (2023) BookTrust Storytime evaluation report 2022–23. Leeds: BookTrust 

Lawrlwythwch yr adroddiad hwn [PDF] 

Cyf: BookTrust (2022) BookTrust Storytime: Summary of key lessons from the first year of the pilot. Leeds: BookTrust