Canllaw Llyfrau Gwych Cymru i Deuluoedd

Yma gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar rannu straeon gyda’ch teulu a darganfod ein Canllaw Llyfrau Gwych Cymru, sy’n llawn dros 100 o argymhellion o lyfrau Cymraeg, Saesneg a dwy-ieithog gwych i blant 4–11 oed.

Ar y dudalen hon gallwch:

  • Wylio ein fideo am rannu llyfrau gyda’ch gilydd pan fydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd
  • Lawrlwytho ein Canllaw Llyfrau Gwych Cymru, sy’n llawn argymhellion darllen a ddewiswyd yn ofalus

Mae darllen yn bwysig i ni fel teulu, wrth i ni gael cwtsh da ar y soffa

Mam

Canllaw Llyfrau Gwych Cymru

Dros 100 o argymhellion darllen arbenigol ar gyfer plant 4–11 oed — mae rhywbeth at ddant pawb yng Nghanllaw Llyfrau Gwych Cymru!

Dysgu rhagor

Pam mae darllen mor wych

Mae ymchwil yn dangos bod gan ddarllen rai manteision anhygoel i blant! Mae plant sy’n darllen yn fwy tebygol o:

  • Oresgyn anfantais sy’n cael ei achosi gan anghydraddoldebau
  • fod yn blant iachach a hapusach sydd â gwell lles meddyliol a hunan-barch
  • Wneud yn well yn yr ysgol a gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm
  • Ddatblygu creadigrwydd ac empathi

Rhagor o adnoddau