English Cymraeg

Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2024-25

Dyma dros 100 o lyfrau o’r flwyddyn ddiwethaf sy’n wych yn ein barn ni – ac ym marn plant hefyd, heb os.

Ein blaenoriaeth yw magu cyffro ymysg plant am lyfrau, straeon a rhigymau oherwydd, os yw darllen yn hwyl, bydd plant eisiau darllen. Dyna pam ein bod ni wedi llunio’r canllaw ar-lein hwn sy’n llawn llyfrau rydyn ni’n meddwl sy’n hollol wych. Maen nhw wedi’u dewis yn ofalus i ennyn diddordeb a magu cyffro ymysg plant hyd at 11 oed. Rydyn ni’n credu mai’r llyfr cywir” bob amser yw’r llyfr y mae plentyn eisiau ei ddarllen – a gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn eich ysbrydoli i ddod o hyd i’r llyfr hwnnw.

Rydym yn partneru â Browns, sy’n cynnig gostyngiad o 40% i ysgolion. Am bob llyfr Saesneg sy’n cael ei werthu drwy’r ddolen hon, bydd Browns yn rhoi rhodd i BookTrust.

Fel arall, archebwch lyfrau Saesneg o Waterstones. Maen nhw hefyd yn rhoi rhodd i BookTrust am bob llyfr sy’n cael ei werthu o’r dudalen hon.

Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2024–25