Gan bwyso ar dystiolaeth o ymchwil academaidd helaeth wedi’i hadolygu gan gymheiriaid, mae adnodd newydd BookTrust yn cyflwyno achos cryf iawn dros sut mae cynorthwyo plant i ddarllen yn cynnig potensial i drawsnewid eu cyfleoedd bywyd gan roi’r dechrau gorau iddyn nhw.
Er bod y sylfaen dystiolaeth i gefnogi manteision darllen yn helaeth ac yn tyfu, mae’r gymdeithas ehangach yn aml yn canolbwyntio ar sut y gall darllen wella llythrennedd a pherfformiad academaidd plant.
Drwy gyhoeddi ei hadnodd newydd, nod BookTrust yw dangos y ffyrdd niferus, ac sydd yr un mor bwysig, y gall darllen gael effaith gadarnhaol ar fywyd plentyn.
Mae’r dystiolaeth hefyd yn amlygu sut y gall plant o gefndiroedd difreintiedig elwa fwyaf o ddatblygu’r arfer o ddarllen ac mae’n ategu pam fod strategaeth newydd BookTrust yn canolbwyntio ar roi cymorth ychwanegol i’r teuluoedd hyn trwy ei hystod eang o lyfrau, adnoddau a rhaglenni.
Yn yr adnodd, mae BookTrust wedi gosod manteision darllen yn ôl pedair thema graidd gan nodi sut mae plant sy’n darllen yn fwy tebygol:
- O oresgyn anfantais sy’n cael ei achosi gan anghydraddoldebau
- O fod yn blant iachach a hapusach sydd â gwell lles meddyliol a hunan-barch
- O wneud yn well yn yr ysgol a gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm
- O ddatblygu creadigrwydd ac empathi