AmserGartref BookTrust Cymru

Published on: 27 Ebrill 2020

BookTrust Cymru wedi lansio hwb digidol newydd i helpu i ddifyrru plant a theuluoedd sydd gartref, ac i rannu llyfrau, straeon a rhigymau gan rai o hoff awduron, darlunwyr a storïwyr Cymru.

Parent and child art at home by Hannah Shaw

BookTrust Cymru HomeTime – AmserGartref BookTrust Cymru yn cynnwys darlleniadau o lyfrau wedi'u ffilmio, sesiynau rhigwm a chân, llyfrau stori a llun rhyngweithiol a llawer iawn mwy. Mae awduron, darlunwyr a storïwyr o bob cwr o Gymru'n cyfrannu'u gwaith i helpu plant a theuluoedd ddod drwy'r amser anodd hwn tra bo'r ysgolion ar gau a bywyd arferol wedi'i gyfyngu.

Bydd AmserGartref BookTrust Cymru yn rhoi cyfle i arddangos peth o'r doniau rhagorol sydd gennym yng Nghymru, wrth rannu cynnwys o safon uchel yn Gymraeg a Saesneg.

Mae'r uchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys Laureate Plant Cymru, Eloise Williams, yn darllen ei llyfr Elen's Island fesul pennod; chwedlau traddodiadol yn cael eu hadrodd gan y storïwr Michael Harvey; sesiynau 'sut i arlunio' gyda'r arlunydd Huw Aaron; ac Elin Meek yn darllen ei haddasiad Cymraeg o lyfr Roald Dahl, Billy and the Minpins.

Meddai Helen Wales, Pennaeth BookTrust Cymru:

"Mae teuluoedd ledled y wlad yn addasu i ffordd newydd o fyw dros dro, ac mae BookTrust yma i roi cefnogaeth a hwb yn y ffordd orau y gwyddom ni – drwy gael hwyl gyda llyfrau, straeon a rhigymau! Rydym ni'n falch iawn i fod yn cynnal yr hwb cynnwys rhad ac am ddim hwn er mwyn gallu rhannu adnoddau, syniadau a gweithgareddau gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr anhygoel Cymru.
Mae cyfoeth rhyfeddol o ddoniau yng Nghymru, yn Gymraeg a Saesneg, a'n gobaith ni yw y bydd AmserGartref BookTrust Cymru yn helpu llawer mwy o blant i ddod o hyd i ffefryn newydd."

Dywedodd Laureate Plant Cymru, Eloise Williams:

"Mae straeon yn rhoi hudoliaeth a gobaith i ni. Cyfle i chwerthin neu godi calon ar adeg o argyfwng. Ymdeimlad gwell o gydymdeimlad a dealltwriaeth am fywydau pobl eraill. Rwy'n cyfrannu at AmserGartref BookTrust Cymru oherwydd bod angen nawr, yn fwy nag erioed, i ni deimlo'r agosatrwydd sy'n dod yn sgil straeon."

Gallwch ddilyn y cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BookTrustHomeTime ac #AmserGartrefBookTrust.

AmserGartref BookTrust Cymru

Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.

Dysgu rhagor