Cefnogi’r gweithlu Gofal Cymdeithasol
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, arweinwyr gofal cymdeithasol, ymarferwyr a gofalwyr i ymwreiddio darllen ar y cyd fel offeryn perthynol pwerus sy’n cefnogi ymlyniad, ymdeimlad o berthyn a lles plant.
Watch our webinar with Dr Lisa CherryEddie plentyn: Pan rydyn ni’n darllen straeon gyda’n gilydd, mae’n gwneud i fi deimlo’n hapus ac yn gwneud i fi deimlo fy mod i’n cael fy ngharu. Mae’n bod yn rhan o’r teulu.
BookTrust troslias: I blant sydd wedi’u mabwysiadu, plant sydd mewn gofal maeth neu blant y mae perthynas yn gofalu amdanynt, gall darllen llyfr gyda’i gilydd fod yn brofiad llawen sy’n meithrin perthynas ddofn.
Rosie oedolyn: Pan rwyt ti’n darllen gyda mamgu, rwyt ti’n hoffi gwasgu dy hunan i mewn i fannau bach, on’d wyt ti?
Lola plentyn: Mae’n gwneud i mi deimlo’n gynhesach ac yn hapus.
Rosie oedolyn: Mae llyfrau yn dod â ni at ein gilydd. Maen nhw’n creu gofod tawel lle gallwn ni eistedd, lle nad oes unrhyw beth arall yn digwydd. Mae hynny’n gwneud Lola mor hapus.
BookTrust troslias: Mae llyfrau hefyd yn ein helpu i archwilio emosiynau yn ddiogel. I blant sydd wedi profi aflonyddwch a cholled, mae rhannu straeon yn dod â chysur a sefydlogrwydd.
Eddie plentyn: Mae fy hoff stori yn sôn am fwnci sydd wedi colli ei fam. Mae e’ yn y jyngl gyda llawer o greaduriaid sy’n ei helpu, ac yn y diwedd, mae’n dod o hyd iddi. Mae’n teimlo’n bwysig i fi.
BookTrust troslias: Pan fydd plant yn gweld eu hunain neu eu profiadau emosiynol yn cael eu hadlewyrchu mewn llyfr, mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn ac yn cryfhau eu hymdeimlad o hunaniaeth.
Rosie oedolyn: Beth sy’n digwydd fan hyn?
Lola plentyn: Mae’r cyw yn hapus oherwydd bod Mr a Mrs Swan yn garedig iddo. Mae’r cyw eisiau anfon llythyr at ei fam – fel ei bod hi’n gwybod ei fod yn ddiogel a’u bod yn caru ei gilydd.
BookTrust troslias: Mae pob plentyn yn haeddu’r hawl i fod yn ddarllenydd. Mae BookTrust yn cefnogi plant, teuluoedd ac ymarferwyr i sicrhau bod darllen gyda’i gilydd yn rhan o fywyd bob dydd – gan ysgogi eiliadau o lawenydd a chysylltiad.
Debbie oedolyn: Fe ddes i â’r llyfr adref i Dora. Roedd e’n sôn am arwyr sydd ddim yn gwisgo clogynnau.
Fe edrychodd hi arna’ i, a dweud…
Dora plentyn: “Ond mae gen i arwr heb glogyn yn barod. Oherwydd ti ac Wncwl Alan yw fy arwyr i.”
BookTrust troslias: I ddarganfod mwy am sut mae BookTrust yn dod â’r llawenydd sy’n gysylltiedig â darllen ar y cyd i blant sydd mewn cysylltiad â’r system gofal cymdeithasol – ewch i booktrust.org.uk
Dysgwch fwy am sut mae rhannu darllen yn gallu bod yn arfer perthynol mewn gofal cymdeithasol plant
Mae’r animeiddiad Straeon sy’n Ein Cysylltu yn seiliedig ar sgyrsiau go iawn gyda phlant mewn gofal maeth, plant y mae perthnasau yn gofalu amdanynt, a phlant sydd wedi’u mabwysiadu, ac mae’n dangos i ni sut all rhannu llyfrau fod yn ffordd bwerus i blant feithrin perthnasoedd a chryfhau eu hymdeimlad o berthyn a hunaniaeth.
Straeon go iawn o Straeon sy’n ein cysylltu
Darllenwch neu gwrandewch i glywed mwy gan deuluoedd a rannodd eu straeon i’n helpu i greu’r animeiddiad pwerus hwn.
Rosie a Lola
Pan rydych chi’n teimlo’r bond yna ac yn gweld y mwynhad a’r cyffro y mae plentyn yn eu cael pan fydd rhywun yn darllen iddo, mae’n aros gyda chi am byth.
Rosie, Nana Lola
Luke ac Eddie
Mae’r llyfr yna yn fy atgoffa o’r diwrnod cyntaf ddes i yma ac yn disgrifio’r teimladau sydd gen i am fyw yma.
Eddie, yn siarad am y llyfr ‘Monkey Puzzle’
Debbie, Francis a Dora
Mae’r llyfrau cywir yn ei helpu i ddeall ei bywyd blaenorol ychydig yn well. Maen nhw’n ein helpu ni i allu siarad â hi am bethau sydd wedi digwydd.
Debbie, Modryb Dora
Mae’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Mohn Westlake.
-
At BookTrust, we provide support for kinship care families, which can be used by our local authority partners, including virtual schools, as part of their local kinship care offer.
Learn more about how shared reading can be a relational practice in children’s social care
The impact of our reading programmes shows us how sharing books can be a powerful way for children to build bonds and strengthen their sense of belonging and identity. All of our stories featured below are based on real conversations with children in adoption, foster or kinship care.
How reading helps with bonding
When you feel that bond and see the enjoyment and the excitement a child gets from being read to, it just stays with you forever.
Rosie, Lola’s Nana
Books helping children to talk about their feelings
That book reminds me of the first day I came here and describes my feelings of how I live here.
Eddie, talking about the book ‘Monkey Puzzle’
Helping children to understand their own journey
The right books just help her understand her previous life a little bit more. They open doorways for us to be able to talk to her about things that happened.
Debbie, Dora’s Auntie
Ymchwil ar feithrin perthnasoedd ac ymlyniad
-
Mae’r briff hwn yn rhoi trosolwg o fewnwelediadau BookTrust ei hun ac ymchwil ehangach sy’n dangos bod darllen nid yn unig yn weithgaredd llythrennedd neu ddysgu, ond yn un perthynol hefyd.
Siaradwch â ni
Rhannwch eich manylion fel y gallwn ni siarad mwy am sut allwch chi ymwreiddio darllen ar y cyd yn eich sefydliad neu’ch awdurdod lleol. (Ffurf yn Saesneg)
Cofrestrwch am ein gweminar gyda Dr Lisa Cherry
-
Hear from Dr Lisa Cherry, members of BookTrust’s research team and Amy Salter at Sutton Virtual School for insights and practical solutions for using shared reading to support connection and belonging with children from vulnerable backgrounds.
Diweddariadau diweddaraf
-
This briefing provides insights into the role reading and sharing stories can play in kinship care families’ lives and the types of support they find most meaningful.
-
Yn BookTrust, rydym yn darparu cymorth i deuluoedd gofalwyr sy’n berthynas, y gall ein partneriaid awdurdod lleol, gan gynnwys ysgolion rhithwir, ei ddefnyddio fel rhan o’u cynnig gofal gan berthynas lleol. (Saesneg yn unig)
Talk to us
Share your details so we can talk more about how you can embed shared reading in your local authority or organisation.
You can also contact us by email at [email protected]
Rhaglenni darllen i ddechrau arni
Darganfyddwch fwy am Story Explorers a’r Clwb Blwch Llythyrau.
-
Gwasanaeth tanysgrifio llyfrau ar gyfer plant 1–4 oed sy’n ymwreiddio rhannu straeon gartref i gryfhau perthnasoedd ac ymlyniad i deuluoedd maeth, teuluoedd gofalwyr sy’n berthynas a theuluoedd mabwysiadol. Saesneg yn unig.
-
Ymunwch â channoedd o ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n defnyddio’r Clwb Blwch Llythyrau i ddod â hud darllen a rhifedd i ddysgwyr premiwm disgyblion a dysgwyr bregus 3–13 oed. Saesneg yn unig.