*Mae’r enwau wedi cael eu newid
‘Mae darllen fel teulu go iawn yn rhywbeth fydd gyda fi bob amser’
Gwrandewch ar Luke ac Eddie yn disgrifio sut mae rhannu llyfrau yn eu helpu i siarad am deimladau a phryderon
Eddie: “Roedd Monkey Puzzle [gan Julia Donaldson, darluniau gan Axel Scheffler] yn rhywbeth sy’n fy nghysylltu â’r teulu yma. Mae’n disgrifio’r cysylltiad rhyngom ni, oherwydd mae gen i deimladau, ac os ydw i’n cael breuddwydion gwael am dy golli di [i Luke], maen nhw [Luke a’i wraig] wastad yn fy atgoffa y gwna’ i byth eu colli nhw.”
Luke: “Pan rydych chi’n croesawu plentyn maeth i fyw gyda chi am y tro cyntaf, dydych chi ddim yn gwybod a fyddan nhw’n eich derbyn chi. Maen nhw wedi cael eu symud o bopeth maen nhw’n ei wybod.
“Maen nhw eisiau normalrwydd. Ac maen nhw’n blant. Y cyfan maen nhw ei eisiau yw cael eu caru.
“Mae ein dyn bach ni, Eddie, yn un ar ddeg oed nawr, ac fe ddaeth i fyw gyda ni pan oedd ond yn ddwy oed. Er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn setlo, fe gawson ni’r llyfr hwn iddo gan awdur poblogaidd am greadur sydd â drain porffor dros ei gefn.
“Roedd yna byped llaw gyda’r llyfr, ac fe ddaeth y pyped llaw yma’n fyw i Eddie. Mae’r llyfr wedi’i roi yn ôl at ei gilydd cymaint o weithiau nawr fel y mae’n disgyn yn ddarnau, ond all e’ ddim cael gwared ag e’.
“Mae ganddo fe dâp gludiog drosto. Mae’r pyped wedi cael ei drwsio rhywfaint hefyd, oherwydd roedd ei freichiau’n dod yn rhydd.
“Ond mae’n dal i’w gadw mewn lle arbennig. Mae’n dal ar ei wely nawr yn un ar ddeg oed.”
Mae’r llyfr yna yn fy atgoffa o’r diwrnod cyntaf y des i yma ac mae’n disgrifio’r teimladau sydd gen i am fyw yma.
Eddie, yn siarad am y llyfr ’Monkey Puzzle’
Eddie: “Mae e’ [y pyped] fel pyped cof. Mae’n cadw’r hen atgofion yna ac wastad yn fy atgoffa ohonyn nhw. Bydden ni’n defnyddio’r llyfr fel arfer os oeddwn i wedi cynhyrfu, mae’n gwneud i mi deimlo’n hapus.”
Luke: “Byddai’n dweud wrth y pyped am ei ddiwrnod yn yr ysgol, am y problemau roedd yn eu cael neu bethau yr oedd wedi’u mwynhau hyd yn oed. Byddai’n rhannu rhai o’i bryderon, fel:
‘Rydw i wedi blino’n lân heddiw.’ ‘Alla’ i ddim gwneud hynny.’ ‘Dydw i ddim yn hoffi hyn.’ ‘Rwy’n gweld eisiau pobl.’
“Byddai’r pyped yn dod yn fyw ac yn siarad nôl ag ef mewn llais arbennig. Er bod Eddie yn gwybod mai fi oedd yn siarad ag ef, byddai’n rhyngweithio â’r pyped yn lle fi.
“Fe ddywedodd e’ wrth y pyped faint roedd e’n gweld eisiau ei fam a’i dad ac am y problemau roedd yn eu cael – yr un rhai ag oedd yn y llyfr.
“Rwy’n credu, pan rydyn ni’n oedolion, rydyn ni eisiau mynd ati’n syth i geisio gwella pethau i’r plant hyn, y bobl fach hyn. Ond allwn ni ddim bod mor ddu a gwyn am y peth. Yn ein sefyllfaoedd ni, mae’n rhaid i ni geisio mynd ati i wneud pethau mewn ffordd fwy cwmpasog.
“Gall y llyfrau hyn gael eu defnyddio i helpu i siarad â phlant am y syniadau mawr yma. Weithiau, mae hyd yn oed oedolion yn ei chael hi’n anodd esbonio pethau.
Gall y llyfrau hyn gael eu defnyddio i helpu i siarad â phlant am y syniadau mawr yma. Weithiau, mae hyd yn oed oedolion yn ei chael hi’n anodd esbonio pethau.
Luke, Tad Maeth Eddie
“Gallwn ni ofyn i blentyn am y stori pan fyddwn ni’n ei darllen. Gallwn ni ddweud pethau fel:
‘Wel, mae hynny’n debyg i’r hyn ddigwyddodd i ti yr wythnos yma, on’d yw e?’
“Neu: ‘Roeddet ti’n siarad am hynny.’
“Mae’n rhoi cyfle i’r bobl fach hynny ddechrau datgloi eu pecyn cymorth emosiynol eu hunain, meithrin mwy o wydnwch a siarad yn fwy agored, teimlo’n ddigon hyderus i siarad â phobl eraill pan fyddan nhw’n teimlo’n ofidus.
“Pan rydyn ni’n dechrau siarad gyda’n gilydd, hyd yn oed os ydyn ni’n defnyddio pyped i wneud hynny, rydyn ni’n dechrau dysgu am ein gilydd, ac maen nhw’n dysgu amdanom ni.
“Maen nhw’n ein derbyn ni, ac rydyn ni’n dysgu llawer iawn amdanyn nhw. Rydyn ni’n ffurfio’r bondiau emosiynol mawr, cryf hynny, nad oedd ganddyn nhw o’r blaen, o bosibl.
“Roedd ganddon ni frawd a chwaer yn byw gyda ni, ac roedden nhw’n mynd i gael eu mabwysiadu.
“Doedden ni ddim yn gwybod pam, ond doedd y ferch fach ddim yn gallu siarad pan gyrhaeddodd.
“Roedd hi wrth ei bodd â chartŵn ar y teledu, felly fe wnaethon ni ddod o hyd i set o lyfrau bwrdd oedd yn cynnwys y cymeriadau fel ysgogiad i’w chael hi i edrych ar lyfrau nad oedd hi wedi bod eisiau edrych arnyn nhw o’r blaen.
“Byddai’n eistedd ar y soffa gyda fy ngwraig a minnau, wedi cwtsio lan, y ddau ohonon ni’n edrych ar y lluniau, yn adrodd y stori wrthi. Fe ddaeth hi i wybod y stori mor dda nes iddi ddechrau dweud y geiriau gyda ni neu hyd yn oed ein cywiro yn ei hiaith fach ei hun os oedd hi’n meddwl ein bod ni’n dweud rhywbeth yn anghywir.
“Fe wnaeth darllen llyfrau ei helpu i ganfod ei llais ei hun.
“Pan adawodd hi ni, fe ddywedodd hi wrth fy ngwraig a minnau am y tro cyntaf ei bod hi’n ein caru ni.
“Dyma’r tro cyntaf i ni glywed ei llais.
“Fe wnaeth ei brawd, a oedd flwyddyn yn hŷn, ddal fy llaw a dweud: ’Rwy’n dy garu di hefyd. Chi dau yw’r bobl dda.’
“Rwy’n credu’n gryf bod y perthnasoedd y gwnaethon ni eu hadeiladu gyda’r plant hynny dros y flwyddyn yr oedden nhw gyda ni, trwy ddarllen a mwynhau bywyd gyda’n gilydd, wedi eu helpu.”
Fe wnaeth darllen llyfrau ei helpu i ganfod ei llais ei hun.
Luke, Tad Maeth
Eddie: “Mae edrych nôl ar ddarllen fel teulu go iawn yn rhywbeth a oedd yn rhan o fy mywyd. Fydd e’ gyda fi bob amser a fydda’ i byth yn ei anghofio.
“[Mae’n] teimlo fel fy mod i’n cael fy nghofio.”
Mae’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Mohn Westlake.
I ddysgu mwy am raglenni BookTrust a’r effeithiau y gall darllen ar y cyd ei chael ar blant a theuluoedd sydd mewn cysylltiad â’r system gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni yn [email protected] neu defnyddiwch y ffurflen ganlynol.
Siaradwch â ni
Rhannwch eich manylion fel y gallwn ni siarad mwy am sut allwch chi ymwreiddio darllen ar y cyd yn eich sefydliad neu’ch awdurdod lleol. (Ffurf yn Saesneg)
Gallwch chi hefyd gysylltu â ni drwy e‑bost – [email protected]
Rhaglenni darllen i ddechrau arni
-
Gwasanaeth tanysgrifio llyfrau ar gyfer plant 1–4 oed sy’n ymwreiddio rhannu straeon gartref i gryfhau perthnasoedd ac ymlyniad i deuluoedd maeth, teuluoedd gofalwyr sy’n berthynas a theuluoedd mabwysiadol. Saesneg yn unig.
-
Ymunwch â channoedd o ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n defnyddio’r Clwb Blwch Llythyrau i ddod â hud darllen a rhifedd i ddysgwyr premiwm disgyblion a dysgwyr bregus 3–13 oed. Saesneg yn unig.