*Mae’r enwau wedi cael eu newid
‘Mae darllen yn ei chefnogi’n emosiynol, yn cefnogi ei lles corfforol a meddyliol, ac yn ei helpu i ddeall pam mae hi gyda ni’
Gwrandewch ar sut mae Debbie a Francis, gofalwyr sy’n berthynas, yn defnyddio llyfrau i gefnogi Dora gyda’i lles a’i helpu i ddeall ei thaith bywyd.
Debbie: “Roeddwn i’n darllen y llyfr ges i gan BookTrust i Dora, sef Not All Heroes Wear Capes [gan Ben Brooks, darluniau gan Nigel Baines]. Mae’n sôn am bobl sy’n gwneud pethau anhygoel i bobl eraill.
“Roedden ni’n eistedd ac yn darllen, yn dod at ddiwedd pennod, ac fe edrychodd hi arna’ i a dweud:
‘Wel, rwyt ti’n arwr, on’d wyt ti? Oherwydd fe wnes di fy nghymryd i mewn a doedd dim angen i ti wneud hynny.’
“Fe ddywedais i: ‘Na, ond fe welson ni’r ferch fach yma oedd yn eithaf ofnus ac roedd angen rhywun arni i’w charu, ac roedden ni eisiau gwneud hynny i ti.’
“Ac fe ddywedodd hi: ‘’Wel, ti ac Ewythr Francis yw fy arwyr heb fantell te?’
“Fe wnaeth hi roi hynny i gyd at ei gilydd o ddarllen y llyfr hwnnw. Y ffaith bod hynny wedi dod oddi wrthi hi, er gwaethaf ei hanableddau datblygiadol a deallusol, ac wedyn ei bod hi wedi mynegi’r meddyliau hynny, dyna beth wnaeth e’ hyd yn oed yn fwy arbennig i fi.
“Ac fe ddaeth y cyfan o’r un llyfr hwnnw. Felly diolch.”
Francis: “Mae angen i ni roi sicrwydd i Dora o hyd weithiau: ‘Rwyt ti’n ddiogel yma.’ Mae hi’n gwybod bod ei mam enedigol yn byw’n eithaf agos. Mae hi’n siŵr bod ei mam yn gallu ei chlywed hi’n siarad, ac mae’n rhaid i ni roi llawer o sicrwydd iddi. Mae llyfrau wir yn helpu gyda hynny.”
Mae’r llyfrau cywir yn ei helpu i ddeall ei bywyd blaenorol ychydig yn well. Maen nhw’n ein helpu ni i allu siarad â hi am bethau sydd wedi digwydd
Debbie, Modryb Dora
Debbie: “Rydyn ni’n rhoi sicrwydd iddi ac yn dweud wrthi bod y pethau hynny wedi digwydd, ydyn, ond ei bod hi yma nawr a’i bod hi’n ddiogel a dydy’r pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd eto. Mae llyfrau yn ein helpu i gael y sgyrsiau hynny.
“Mae’r llyfr rydyn ni’n ei ddarllen nawr yn sôn am banda a’i ffrind, draig fach. Maen nhw’n teithio i fannau newydd, mae’n rhaid iddyn nhw wynebu caledi a stormydd.
“Er bod gan Dora anableddau deallusol, mae hi’n gallu nodi darnau a dweud: ’Wel, mae hynny’n debyg i fi, on’d yw e? Oherwydd rwy’n cael y breuddwydion drwg yna.’
“Ac fe fydda’ i’n dweud wrthi: ‘Mae Ewythr Francis a fi, rydyn ni fel y panda. Rydyn ni’n mynd i ofalu amdanat ti ac rydyn ni’n mynd i wneud yn siŵr dy fod di’n goroesi’r storm honno’n ddiogel. Ac mae hi’n dweud:
‘Ie, galla’ i weld hynny.’
Francis: “Mae yna lawer o wahanol ddamcaniaethau ar niwroamrywiaeth, pam mae plentyn yn gweithio yn y ffordd hon, a beth sy’n ei yrru. Ond does yr un plentyn yn ffitio ym mhob bocs. Rydych chi’n rhoi cynnig ar yr holl strategaethau bach hyn ac os nad ydyn nhw’n gweithio, rydych chi’n symud ymlaen.”
Os yw hi wedi cael diwrnod arbennig o fyrlymog yn yr ysgol – rydyn ni’n ei alw’n ddiwrnod byrlymog pan mae ei hemosiynau dros y lle i gyd – gall y darllen helpu i’w thawelu.
Francis, Ewythr Dora
Francis: “Mae hi’n hoffi dewis llyfr. Bydd hi’n darllen tudalen, bydda’ i’n darllen tudalen, rydyn ni’n tywyllu’r goleuadau yn ei hystafell wely ac yn ei gwneud yn fwy ymlaciol. Weithiau, rwy’n dal i ddarllen y llyfr ac mae hi’n cysgu.
Debbie: “Oherwydd bod Francis yn gweithio i ffwrdd yn eithaf aml, rwy’n gadael iddo gael yr amser yna gyda hi i ddarllen cyn amser gwely. Mae’n rhoi’r sicrwydd hwnnw iddi fod Ewythr Francis yn mynd i ffwrdd, ydy, ond ei fod yn dychwelyd. Mae’n bwysig [ar gyfer] ei hymlyniad, (mae hi’n ei alw’n dad) a’r amser yna rhwng tad a merch. Yn syml, darllen llyfrau a rhannu straeon gyda’i gilydd.
“Mae’r holl brofiad o gael Dora gyda ni ac o ddod o hyd i lyfrau da sy’n ei chefnogi wedi newid fy marn am ddarllen yn llwyr.
“Mae’n ymwneud â mwy na dysgu sut i ddarllen fel bod ganddi’r sgil honno. Mae darllen yn ei chefnogi’n emosiynol. Mae’n ei chefnogi’n gorfforol, mae’n cefnogi ei lles meddyliol, mae’n ei helpu i ddeall pam mae hi gyda ni, a’i hymlyniad i’r teulu newydd yma, teulu y mae hi’n mynd i fod yn rhan ohono. Mae hynny wedi ehangu fy marn am sut all llyfrau chwarae rhan fawr ym mywyd rhywun.”
Cerdd Debbie (a ysgrifennwyd ar gyfer Dora) ’Rydyn ni yma i aros’
Rydyn ni yma i aros.
Pan ddes di atom am y tro cyntaf, roeddet ti mor dawel.
Roedd dy lygaid yn llydan ac yn wyliadwrus, fel petai ti’n aros i’r ystafell ddisgyn yn ddarnau.
Roedd pob symudiad bach yn gwneud i ti wingo.
Gallen ni bron â chlywed y cwestiynau yn dy ben.
Fydd y lle hwn yn brifo hefyd?
Wnes di ddim cyrraedd yn wag.
Roeddet ti’n cario nosweithiau o wydr chwilfriw, drysau’n cael eu cau’n glep fel taranau, lleisiau’n troi’n finiog ac yn beryglus.
Roedden ni’n gwybod dy fod di wedi gweld gormod.
Fe wnes di ddysgu’n gynnar bod cariad yn gallu newid, a bod aros yn fach yn gallu dy gadw di’n ddiogel.
Mae’n wers drom i galon mor fach, felly wnaethon ni ddim dy ruthro di.
Wnaethon ni ddim gofyn i ti ein galw ni’n unrhyw beth.
Dim ond gwneud yn siŵr bod dy ginio di’n gynnes.
Fe adawon ni olau’r cyntedd ymlaen.
Fe siaradon ni’n ysgafn, hyd yn oed pan doeddet ti ddim yn gallu.
Roedden ni eisiau i ti ei deimlo.
Hyd yn oed os yw ymddiriedaeth yn cymryd amser, rydyn ni yma i aros.
Fe welson ni sut roeddet ti’n ein profi.
Fe ddalies di bob gweithred o garedigrwydd i’r golau, yn chwilio am graciau.
Dim ystyfnig oeddet ti, roeddet ti’n gall.
Roedd ofn wedi dy gadw di’n ddiogel o’r blaen, felly fe arhoson ni trwy’r nosweithiau y gwnes di ddeffro yn ysgwyd trwy’r distawrwydd hir, trwy’r dicter sydyn a ddaeth o unman, wnaethon ni ddim cerdded i ffwrdd.
Roedden ni eisiau i ti wybod ein bod ni yma i aros.
Yna un diwrnod, mor dawel fel i ni bron â’i golli.
Fe wnes di estyn am law, diwrnod arall fe wnes di chwerthin.
A doeddet ti ddim yn swnio’n ofnus.
A’r noson y gwnes di sibrwd “teulu”, fe dorrodd ein calonnau a chawson nhw eu mendio yn yr un anadl.
Fe ddywedon ni wrthot ti, rydyn ni yma i aros.
Rydyn ni’n gwybod nad yw’r gorffennol yn diflannu.
Bydd hi’n anodd o hyd weithiau.
Bydd rhai atgofion yn dal i frathu.
Ond gwranda, rwyt ti’n ddiogel yma.
Does dim rhaid i ti gilio mwyach.
Does dim rhaid i ti ddyfalu a fydd cariad yn troi.
Fe ddewison ni ti.
Rwyt ti yma i aros.
A phob dydd rydyn ni’n adeiladu rhywbeth cryfach na’r stormydd rwyt ti wedi bod drwyddyn nhw.
Rwyt ti’n fwy na’r trais roeddet ti’n dyst iddo.
Mwy na’r ofn wnaeth dy siapio.
Ac mi rydyn ni.
Mae’n anrhydedd i ni sefyll yma i dy helpu i adeiladu bywyd lle dydy cariad ddim yn pylu.
Byddwn ni’n dy garu bob amser, oherwydd rydyn ni yma i aros.
Mae’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Mohn Westlake.
I ddysgu mwy am raglenni BookTrust a’r effeithiau y gall darllen ar y cyd ei chael ar blant a theuluoedd sydd mewn cysylltiad â’r system gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni yn [email protected] neu defnyddiwch y ffurflen ganlynol.
Siaradwch â ni
Rhannwch eich manylion fel y gallwn ni siarad mwy am sut allwch chi ymwreiddio darllen ar y cyd yn eich sefydliad neu’ch awdurdod lleol. (Ffurf yn Saesneg)
Gallwch chi hefyd gysylltu â ni drwy e‑bost – [email protected]
Rhaglenni darllen i ddechrau arni
-
Gwasanaeth tanysgrifio llyfrau ar gyfer plant 1–4 oed sy’n ymwreiddio rhannu straeon gartref i gryfhau perthnasoedd ac ymlyniad i deuluoedd maeth, teuluoedd gofalwyr sy’n berthynas a theuluoedd mabwysiadol. Saesneg yn unig.
-
Ymunwch â channoedd o ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n defnyddio’r Clwb Blwch Llythyrau i ddod â hud darllen a rhifedd i ddysgwyr premiwm disgyblion a dysgwyr bregus 3–13 oed. Saesneg yn unig.