‘Darllen yw ein hamser i gwtsio lan’

Gwrandewch ar Rosie a Lola yn siarad am sut mae rhannu straeon yn cryfhau’r berthynas rhyngddyn nhw ac yn gwneud darllen yn amser arbennig gyda’i gilydd.

*Mae’r enwau wedi cael eu newid 

Rosie: ​“Beth yw dy hoff amser i eistedd a darllen gyda Nana?” 

Lola: Trwy’r amser.” 

Rosie: Trwy’r amser! A beth wyt ti’n ei wneud?” 

Lola: ​“Rydw i’n cwtsio i fyny ati.” 

Rosie: ​“Rwyt ti’n cwtsio i fyny! Dwyt ti ddim yn rhoi unrhyw le i mi, rwyt ti’n cwtsio i fyny yn y lle lleiaf. Beth wyt ti’n ei wneud pan fydda’ i’n cael fy nghoffi yn y bore?” 

Lola: Rydw i wastad yn gofyn am lyfr.” 

Rosie: Beth wyt ti’n ei ddweud?” 

Lola: Nana, alla’ i gael llyfr plîs?” 

Rosie: ​“Ac yna beth wyt ti’n ei ddweud?” 

Lola: ​“Bod dy goffi yn dal yn rhy dwym.” 

Rosie: ​“Mae’n rhy dwym! Ac rwyt ti’n cwtsio lan…” 

Lola[chwerthin]  

Rosie: ​“Bydd hi’n gwasgu i mewn i’r man lleiaf wrth fy ochr i ac fe fydd hi wastad yn cyrraedd gyda’i phentwr bach o lyfrau. 

Ac yna fe fydd hi’n dweud… 

Nana, mae dy goffi yn dal yn rhy dwym. Wnei di ddarllen llyfr arall i fi?’  

Os na wnawn ni orffen y llyfr, gallwn ni wastad rhoi llyfrnod ynddo a’i ddarllen ar ôl ysgol. 

Mae Lola wedi byw gyda ni ers pan oedd hi’n flwydd oed, ond fe ddechreuon ni ddarllen iddi o’r diwrnod y cafodd ei geni. 

Pe bawn i’n gallu potelu’r agosrwydd yna a’r eiliadau tawel o chwerthin a’r teimlad o fod gyda’n gilydd yn llwyr, rydw i wir yn credu y byddai mwy o deuluoedd yn cael eu hannog i ddarllen gyda’u plant. 

Pan rydych chi’n teimlo’r bond yna ac yn gweld y mwynhad a’r cyffro y mae plentyn yn eu cael pan fydd rhywun yn darllen iddo, mae’n aros gyda chi am byth.

Rosie, Nana Lola

Pan ddes i adref gyda llond llaw o lyfrau gan BookTrust, roedd hi’n teimlo fel Nadolig a phen-blwydd ar yr un pryd. Roedd Lola mor gyffrous. 

Roedd un llyfr yn arbennig yr oedd hi eisiau i fi ei ddarllen, ac fe wnaethon ni ei ddarllen bob nos am amser hir iawn. Llyfr am octopws oedd e’. 

Fe wnaeth y llyfr yna sbarduno cymaint o sgyrsiau am yr holl bethau y mae octopws yn gallu ei wneud. Yr holl liwiau ar y dudalen, dewis ein hoff octopws ar y dudalen olaf. Roedd wedi’i ddarlunio’n hyfryd, a byddai Lola yn treulio’r holl amser yn astudio pob tudalen, yn tynnu sylw at rai o’r pethau yr oedd hi’n eu mwynhau neu yr oedd hi eisiau rhoi cynnig arnyn nhw. A phob nos roedd hi’n sylwi ar rywbeth newydd. 

Roedd llyfr arall y daeth hi ag e’ adref o’r ysgol mor ddoniol. Gallech chi ragweld yn hawdd beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Ac yn y diwedd roeddwn i’n chwerthin wrth geisio ei ddarllen a byddai Lola yn rhoi pryd o dafod i fi: 

Nana, stopia chwerthin!’ Dyna beth fyddai’n ei ddweud wrtha’ i. 

Alla’ i ddim eistedd i lawr unrhyw adeg o’r diwrnod heb i Lola ofyn i mi ddarllen llyfr, ac rwy’n caru hynny. Rwy’n gobeithio y bydd y cariad hwnnw at ddarllen yn aros gyda hi am byth. 

Y llawenydd mae hi’n ei gael o’r llyfrau a’r amser rydyn ni’n ei rannu gyda’n gilydd sy’n ei gwneud mor arbennig. Amser gwerthfawr iawn. Ac rwy’n credu ei bod hi’n werthfawr ei bod hi’n dewis treulio’r amser gyda fi.

Rosie yn sôn am gariad Lola at ddarllen

Mae hi wrth ei bodd yn mynd i’r llyfrgell, yn yr ysgol ac yn y dref. Mae ganddi ei cherdyn llyfrgell ei hun hyd yn oed ac rydyn ni’n mynd ag ef gyda ni bob dydd Sadwrn, oherwydd ar ôl trampolinio, mae hi’n hoffi treulio hanner awr yn y llyfrgell hefyd. 

Mae Lola yn darllen ar ei phen ei hun nawr. Mae hi’n gallu adnabod geiriau mewn llyfrau i blant hŷn a, gyda chymorth lluniau, mae hi’n deall y stori sy’n cael ei hadrodd. 

Yn ddiweddar, fe ddarllenodd hi jôc o becyn iogwrt ar ei phen ei hun, ac roedd hi mor falch, ac fe wnaeth i fi deimlo’n falch iawn ohoni hefyd.”

[Rosie a Lola yn darllen ac yn siarad am Delly Duck: Why a little chick couldn’t stay with his birth mother, gan Holly Marlow] 

Mae’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Mohn Westlake. 

I ddysgu mwy am raglenni BookTrust a’r effeithiau y gall darllen ar y cyd ei chael ar blant a theuluoedd sydd mewn cysylltiad â’r system gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni yn [email protected] neu defnyddiwch y ffurflen ganlynol. 

Siaradwch â ni

Rhannwch eich manylion fel y gallwn ni siarad mwy am sut allwch chi ymwreiddio darllen ar y cyd yn eich sefydliad neu’ch awdurdod lleol. (Ffurf yn Saesneg)

Your name

Gallwch chi hefyd gysylltu â ni drwy e‑bost – [email protected]

Rhaglenni darllen i ddechrau arni

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn