Llyfr Bwndel Babi
Ym Mlwch Bwndel Babi Llywodraeth Cymru, mae llyfr lliain dwyieithog y gallwch chi ei fwynhau gyda’ch babi. Mae ganddo luniau du a gwyn am fod y rhain yn hawdd i fabis newydd-anedig eu gweld a ffocysu arnynt. Mae ganddo ddeunyddiau amrywiol hefyd er mwyn i’ch babi allu darganfod pethau gwahanol i gyffwrdd â nhw.
Llyfr Bwndel Babi
Pam fod rhannu straeon gyda’ch babi’n cyfri
Hyd yn oed cyn iddyn nhw gael eu geni, bydd eich babi’n clywed eich llais ac yn ei adnabod. Mae siarad, canu a darllen i’ch bwmp neu fabi yn helpu i dyfu’u hymennydd, a theimlo’n ddiogel ac yn gysylltiedig â chi.
Rhai cynghorion ar gyfer rhannu straeon
Does dim ffordd gywir neu anghywir i ddarllen llyfr gyda’ch gilydd, a does dim ots os nad ydych chi’n meddwl eich bod chi’n ddarllenwr gwych – gall dim ond gwrando ar eich llais fod yn gysur i’ch babi. Dyma rai cynghorion ar gyfer rhannu straeon allai fod o ddefnydd i chi:
- Gellir rhannu straeon unrhyw bryd, unrhyw le. Ar y bws, yn y parc, yn y gwely – mae llyfrau’n ffordd wych o roi diddanwch sydyn.
- Does dim ots os yw eich babi ond yn cyffwrdd â’r llyfr, neu hyd yn oed yn ei gnoi, i ddechrau. Ymhen fawr o dro, byddan nhw’n mwynhau eich helpu i droi’r tudalennau!
- Mae modd i chi ddisgrifio beth welwch chi ar y dudalen, er enghraifft ‘Edrych, dafad’ – bydd eich babi wrth eu bodd o glywed eich llais, hyd yn oed os ydyn nhw ond yn gwrando.
- Defnyddiwch synau anifeiliaid neu effeithiau sain eraill – mae’r rhain yn helpu i ddod â’r stori’n fyw ac y codi chwerthin oddi wrth y ddau ohonoch!
- Does dim angen i chi ddarllen llyfr o glawr i glawr – gallwch bicio i mewn ac allan.
- Mwynhewch! Cofiwch nad oes ffordd gywir nac anghywir o rannu stori – dewch o hyd i ffordd sy’n gweithio i chi a’ch babi.
Llun agos o Llyfr Bwndel Babi
Llyfrau eraill
Mae hi’n hollol iawn darllen yr un llyfr drosodd a throsodd oherwydd mae llyfrau cyfarwydd yn gysurlon ac yn adeiladu hyder. Ond os ydych chi’n barod am newid bach, dyma restr o lyfrau a luniwyd gennym ni fel awgrymiadau am bethau i ddarllen i’ch babi, neu gallwch ddefnyddio ein canfyddwr llyfrau i chwilio am lyfrau am bethau y mae eich babi’n eu mwynhau.
Mannau eraill i gael cefnogaeth a syniadau
Mae’n rhad ac am ddim i ymuno â llyfrgelloedd lleol a dyma ffordd wych o ddal ati i rannu llyfrau gyda’ch gilydd. Mae llawer yn cynnal sesiynau stori neu rigwm ble gallwch gwrdd â theuluoedd eraill.
Yn aml, bydd gan dimau Dechrau’n Deg neu Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd grwpiau a chefnogaeth ar gael er mwyn dod â theuluoedd ynghyd, weithiau ar gyfer amser stori, felly holwch eich Ymwelydd Iechyd neu Fydwraig i gael mwy o wybodaeth os oes angen.
Mae gan ymgyrch Siarad Gyda Fi Llywodraeth Cymru ragor o gynghorion hwylus o ran edrych ar lyfrau gyda’ch gilydd a chymell eich un bach i siarad.
Cofiwch gadw llygad am eich pecyn Dechrau Da Babi, y bydd eich Ymwelydd Iechyd yn ei rannu gyda chi, fydd yn cynnwys llyfr gwych arall a phyped bys i chi ei rannu gyda’ch babi.