Wythnos Llyfrau Plant ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd

Wythnos Llyfrau Plant ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd

Mae Wythnos Llyfrau Plant 2017 yn digwydd fis Tachwedd eleni – dyma sut i ddathlu holl hwyl darllen yn eich ysgol chi.

Pwrpas yr wythnos yw dathlu holl lawenydd darllen er pleser yn yr ysgol. Beth am ddewis diwrnod arbennig neu gallech dreulio'r wythnos gyfan gyda'ch disgyblion, yn mwynhau llyfrau gwych ac yn chwarae gemau gweithgaredd llawn sbort. Mae'n ffordd ragorol o ddarganfod awdur newydd, hybu llyfrgell yr ysgol, tanio dychymyg y plant i'w hannog i wneud ysgrifennu creadigol.

Ffyrdd creadigol o ddathlu Wythnos Llyfrau Plant

Dyma ambell syniad syml y gallwch chi a'ch disgyblion eu defnyddio i ddathlu Wythnos Llyfrau Plant.

  • Beth am greu 'cwtsh llyfrau': trowch gornel o'r dosbarth neu'r llyfrgell yn ardal ble gall disgyblion ymlacio a mwynhau darllen llyfrau. Po fwyaf o glustogau, y gorau! Edrychwch drwy ein Canllaw Llyfrau Gwych i weld rhai o'n llyfrau ffefryn diweddaraf i blant [Saesneg yn unig].
  • Adroddwch straeon: mae annog plant i ddarllen er pleser yn ymwnued â mwy na dewis llyfr - mae hi yr un mor bwysig eu bod yn gallu gwerthfawrogi stori dda. Darllenwch lyfr gyda'ch dosbarth ar ddiwedd pob dydd am 20 munud, a gadewch iddyn nhw ymlacio a mwynhau…

Reading fun at school

  • Cofiwch gynnwys rhieni a gofalwyr: tybed a oes modd cael rhieni a gofalwyr i ymuno yn hwyl Wythnos Llyfrau Plant? Gallech eu gwahodd i gymryd rhan yn holl sbort Amser Stori neu i rannu llyfr gyda'u plentyn yn ystod rhyw brynhawn yn yr ysgol.
  • Cynhaliwch ddiwrnod gwisg ffansi: pa ffordd well i ddathlu straeon na thrwy fod yn gymeriad o un ohonynt! Gofynnwch i'ch disgyblion wisgo fel hoff gymeriad o lyfr. Gallech hyd yn oed adael iddyn nhw gael hwyl drwy wneud gwisgoedd a phrops yn y dosbarth.
  • Dewch â llyfr yn fyw: mae actio un o hoff lyfrau eich dosbarth yn llawer o hwyl. Rhowch gyfle i'r plant gydio mewn props, gwisgoedd ac unrhyw beth arall maen nhw'n ei ddymuno, a mwynhewch adrodd y stori gyda'ch gilydd.
  • Cynhaliwch glwb llyfrau: sefydlwch glwb llyfrau hwyliog amser cinio, ble gall disgyblion fwynhau trafod llyfrau a straeon yn fwy manwl. Gwnewch yr awyrgylch yn hamddenol, yn glyd - a pheidiwch ag anghofio danteithion i'w bwyta!
  • Dechreuwch ysgrifennu: mae Wythnos Llyfrau Plant yn cynnig llu o gyfleoedd i chi annog eich disgyblion i ysgrifennu. Beth am awgrymu eu bod yn adolygu'u hoff lyfr, neu'n creu proffil cymeriad? Gallech arddangos y rhain yn eich cornel ddarllen, ac efallai y bydd yn anogaeth i ddisgyblion eraill sy'n chwilio am y llyfr cyffrous nesaf i'w ddarllen.
  • Cofiwch greu: gadewch i'ch disgyblion fynegi'u hunain drwy gelf wrth iddynt wneud lluniau o'u hoff gymeriadau o lyfrau gwahanol, creu nodyn llyfr personol neu hyd yn oed ddylunio cloriau llyfrau. Estynnwch y paent, y creonau a'r powdr pefr, a mwynhewch!
  • Trefnwch fod ymwelydd arbennig yn dod i mewn: mae Wythnos Llyfrau Plant yn adeg ddelfrydol i drefnu fod awdur neu arlunydd yn ymweld â'r ysgol i ysbrydoli'r plant ym maes darllen ac ysgrifennu. Mwy o gymorth ynglŷn â threfnu ymweliad awdur. Sylwer: gall Llenyddiaeth Cymru gynorthwyo i rannu costau gwahodd awduron i'ch ysgol drwy gyfrwng cynllun Awduron ar Daith.


Rydym ni'n llawn cyffro wrth feddwl sut y byddwch chi'n dathlu Wythnos Llyfrau Plant. Anfonwch eich lluniau atom dros e-bost at [email protected] neu anfonwch drydariad at @BookTrustCymru gan ddefnyddio #WythnosLlyfrauPlant.

Great Books Guide

Check out our Great Books Guide

Your guide to our favourite children's books from the past year: download as a PDF or find online booklists split by age group.

Arrange an author visit

Invite an author to your school

Here's how to get an author or illustrator to visit your school and inspire your pupils.

Resources to use

Find out about our resources

From fun lesson plans to posters for your children's centre, find out more and search for resources which are right for you.