English Cymraeg

The Great Pollination Investigation: And How We Get Food From Flowers

gan Deborah Hocking

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+

Cyhoeddwr Templar Books, 2025

  • Interactive
  • Picture books

Am y llyfr hwn

Pam mae blodau mor llachar a hardd? Pam mae pryfed yn suo o’u cwmpas? A yw’n wir fod blodau yn helpu i wneud bwyd, diolch i beillio? Gadewch i ni ymchwilio!

 Ymunwch yn yr hwyl drwy godi’r llabedi a darganfod popeth am y rhannau o flodau, ac am y pryfed y maent yn dibynnu arnynt. O flodau sy’n troi’n ffrwythau, i’r planhigion y mae anifeiliaid yn eu bwyta i gynhyrchu llaeth ac wyau i ni, ceir llawer i’w ddarganfod am y cysylltiadau rhwng blodau a bwyd. 

Mae’r llyfr hwn, sy’n cynnwys darluniau ardderchog, yn bleser ei archwilio. Mae pob llabed a thudalen naid yn hardd ac addysgiadol, sy’n dipyn o gamp! Mae’r hynod dalentog Deborah Hocking wedi cynhyrchu’r llyfr mewn partneriaeth â’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol, Kew, sy’n rhoi hygrededd go iawn i’r wybodaeth fotanegol. 

Mae’n llawn ffeithiau, a hyd yn oed yn cynnwys arbrawf hadyn tomato yn y cefn. Gan ei fod yn cynnwys rhywfaint o iaith wyddonol, fel ‘ofwlau’ a ‘sbiragl’, nid yw’r llyfr lluniau hwn i blant cyn-ysgol, ond i blant sy’n hoffi eu llyfrau ffeithiau wedi’u dylunio’n hardd. Godidog.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn