English Cymraeg

Reggie Rabbit: The Great Carrot Heist

gan Swapna Reddy, darluniau gan Becka Moor

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 6+

Cyhoeddwr Oxford, 2024

  • Comic books
  • Funny
  • Graphic novels

Am y llyfr hwn

Mae gan Reggie Rabbit obsesiwn gyda’r syniad o fod yn dditectif fel ei arwr, Detective Fox. Ac eto ni wnaiff neb ei gymryd o ddifrif gan mai dim ond plentyn yw e - a phrin iawn yw’r troseddau ym mhentref Little Critter. Yn wahanol i strydoedd peryglus Bearburgh City. 

Ond pan fydd llwythi enfawr o foron yn dechrau mynd ar goll o ddociau’r ddinas, mae’n golygu y bydd teulu Reggie - a phawb yn Little Critter - yn cael trafferth i allu fforddio bwyd. A dweud y gwir, yr unig bobl sydd â moron i’w gwerthu nawr yw teulu Masque, sy’n deulu o racwniaid eithriadol o debyg i’r maffia, sy’n gwerthu moron am brisiau llawer rhy uchel. 

Mae Reggie Rabbit a’r ffrind newydd Pipsquark yr aderyn yn penderfynu ymchwilio i ddirgelwch y moron coll ac yn dechrau trwy ofyn i arwr Reggie, Detective Fox, am gymorth. Nid oes gan Detective Fox ddiddordeb yn namcaniaeth Reggie am foron sy’n hedfan dirgel - ond mae gan Drucilla Doe ddiddordeb. A all Reggie a Pipsquark ddatrys y dirgelwch, neu a wnaiff y Lladrad Moron Mawr barhau i fod yn staen tywyll ar hanes Bearburgh City? 

Mae’r stori ladrad dditectif bleserus hon yn llawn cymeriadau difyr ac yn defnyddio cymysgedd o benodau â lluniau a thudalennau o arddull cartŵn i gadw diddordeb y darllenwyd. Bydd darllenwyr yn awyddus i Reggie a Pipsquark lwyddo, a cheir llawer i’w sylwi yn y tudalennau llawn manylion.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn