English Cymraeg

Bumble & Snug and the Excited Unicorn

gan Mark Bradley

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 5+

Cyhoeddwr Hodder Children’s Books, 2022

  • Funny
  • Graphic novels

Am y llyfr hwn

Mae Bumble a Snug yn ffrindiau gorau. Mae Bumble yn 50% brwdfrydedd, 50% egni; a Snug yn 33% caredigrwydd, 33% gofalgarwch, 33% brêns.

Pan maen nhw'n cyfarfod â'r uncorn hudol Sparklehoof, maen nhw'n uno fel tîm i fod yn archarwyr. Ond, mae Sparklehoof ychydig bach yn or-frwdfrydig ac efallai weithiau ei fod yn 'helpu' pan does dim gwir angen. Ydy Bumble a Snug yn gallu meddwl am gynllun i'w bwyllo?

Dyma stori a fydd yn gwneud i'r darllenwyr chwerthin lond eu boliau. Mae'i ddarluniau cartwnaidd llawn lliw yn egnïol tu hwnt a fydd yn apelio'n fawr at ddarllenwyr ifanc, ac mae yna neges hyfryd yma am gyfeillgarwch a rheoli byrbwylltra.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn