Press Start! Game On, Super Rabbit Boy!
gan Thomas Flintham
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 5+
Cyhoeddwr Nosy Crow, 2023
Am y llyfr hwn
Mae Sunny yn chwarae ei gêm gyfrifiadur newydd, Super Rabbit Land.
Yn y gêm, mae pobl y dref yn cael hwyl drwy'r dydd. Mae Singing Dog yn canu iddyn nhw ac mae pawb yn hapus. Ond mae King Viking, sy'n byw ar Mount Boom, yn herwgipio Singing Dog. Mae'n rhaid i Sunny – neu Super Rabbit Boy i roi enw arall arno – gwblhau pob un o chwe lefel y cyrch ac achub Singing Dog. Ond a fydd digon o fywydau ganddo i lwyddo?
Mae gan y llyfr penodau hwn ddarluniau blociog lliwgar iawn wedi'u dylunio'n arbennig i edrych fel Minecraft a Lego, fel bo'n apelio'n fawr at y rhai ifanc sy'n chwarae'r gemau hyn. Dyma'r cyntaf mewn cyfres liwgar, hawdd ei darllen a difyr dros ben sy'n benodol ar gyfer ddarllenwyr cynnar.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Megs
gan Meleri Wyn James, darluniau gan Shari Llywelyn
5 i 9 years
-
Guardians of the New Moon: Ming and Miaow’s Great Race
gan Eric Huang, darluniau gan Phùng Nguyên Quang
5 i 9 years
-
Wild Magic: Legend of the Black Lion
gan Abiola Bello, darluniau gan Emma McCann
5 i 9 years
-
Beastie Bros: The Cabbage Juice Crime
gan David O'Connell
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2023: 6 i 7
Y llyfrau gorau o 2023 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6-7 oed