India, Incredible India
gan Jasbinder Bilan, darluniau gan Nina Chakrabarti
Oedran diddordeb: 7 i 11
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Walker Books, 2022
Am y llyfr hwn
Mae nain (Nanijee) Thara wedi bod yn casglu pethau arbennig o India trwy gydol ei hoes. Bob wythnos, mae Thara a Nanijee yn edrych ar beth gwahanol ac yn dysgu am India: ei diffeithdiroedd chwilboeth, ei hafonydd cysegredig a’i choedwigoedd gwerthfawr; ei dinasoedd modern bywiog, ei themlau hynafol a’i mynyddoedd dan gap eira.
Mae’r cynnwys yn edrych ar feysydd cyfarwydd, fel y Taj Mahal, Diwali a Bollywood, yn ogystal â llawer o gemau llai cyfarwydd, fel cerfluniau Gardd Greigiau Chandigarh, ynysoedd India a phaentiadau ogof Bhimbetka.
Cyflwynir pob ffaith mewn modd clir a chryno, gyda darluniadau lliwgar, hyfryd, tra bo’r drafodaeth rhwng Thara a’i nain yn darparu ffordd gyfeillgar, hygyrch i mewn i’r wybodaeth.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
20 o bobl Lliwgar Cymru
5 i 9 years
-
Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
5 i 9 years
-
-
Become a Genius in a Year
5 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2023: 8 i 9
Y llyfrau gorau o 2023 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.