How to Train Your Dragon School: Doom of the Darkwing
gan Cressida Cowell
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Hodder Children’s Books, 2025
Am y llyfr hwn
Dechrau cyfres newydd yw’r llyfr hwn, wedi’i gosod ym myd prif gyfres How to Train Your Dragon. Toothless yw draig Hiccup, ac mae’n dal i ddysgu sut i fod yn arwr, felly mae wedi’i osod cyn y rhan fwyaf o’r llyfrau yn y gyfres wreiddiol.
Yn y stori hon, mae’n rhaid i Hiccup a Fishlegs - ynghyd a’r Llychlynwyr eraill eu hoedran nhw a’u holl ddreigiau - fynd i ysgol newydd sy’n cael ei rhedeg gan Gobber the Belch enfawr. Maen nhw’n mynd i ddysgu Crefft y Frwydr.
Fodd bynnag, mae gwynt cryf yn chwythu ac yn sydyn, mewn seibiant, mae sain biwgl brwydr ffyrnig yn cael ei glywed. Mae llwyth y Bog-Burglars angen cymorth yr Hooligans! Yr unig drafferth yw na wnaiff neb wrando ar Hiccup. A all e, Fishlegs, a’u dreigiau bach da i ddim achub y dydd - eto?
Yn llawn hiwmor a lluniau anhygoel Cressida Cowell, mae hwn yn ddychweliad gorfoleddus i Ynys Berk. Mae dreigiau newydd i’w cyfarfod, a mwy o berygl i’w wynebu - a hyd yn oed diwrnod sy’n cychwyn trwy sefyll mewn pŵ draig (Toothless!) Mae hwn yn gyflwyniad da i’r brif gyfres a gellir hefyd ei ddarllen ochr yn ochr â’r llyfrau hynny. Hwyl fyrlymus!
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Which Way to Anywhere
9 i 14 years
-
Marnie Midnight and the Moon Mystery
9 i 14 years
-
Y Frân Glocwaith
9 i 14 years
-
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 8 i 9 oed
Y llyfrau gorau o 2025-6 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.