English Cymraeg

Gwiwerod Gwirion Bost / The Squirrels Who Squabbled

gan Jim Field, darluniau gan Rachel Bright
Adapted by Manon Steffan Ros

Oedran diddordeb: 4 i 6

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2017

  • Picture books
  • Bilingual

Am y llyfr hwn

Dilynwch stori Maldwyn wrth iddo sylweddoli nad yw wedi cadw unrhyw fwyd at y gaeaf. Roedd pob anifail arall wedi cadw stôr o fwyd. Beth all Maldwyn wneud? Mae’n dod o hyd i fochyn coed ar ddiwrnod olaf y tymor, ond arhoswch, dydi e ddim ar ei ben ei hun! Mae gwiwer arall o’r enw Tudor â’i lygad ar y côn hefyd. Er bod Tudor eisoes wedi casglu llawer o fwyd, mae dal i fod eisiau’r côn yma. Gwyliwch y ffrwgwd gwirion rhwng Tudor a Maldwyn dros y mochyn coed.

Ar ôl sawl anffawd, dyma Maldwyn a Tudor yn dysgu eu bod nhw wedi bod yn farus ac yn rhoi’r gorau i’r ffraeo. Maen nhw’n dysgu eu bod nhw’n well ar weithio gyda’i gilydd. Dyma lyfr hyfryd ar odl, gyda darluniau a llawer i siarad amdano.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn