English Cymraeg

Dwylo’n Dawnsio (bilingual)

gan Elin Meek, darluniau gan Sioned Medi Evans
Adapted by Elin Meek

Oedran diddordeb: 2 i 3

Cyhoeddwr Llyfrau Broga, 2023

  • Interactive
  • Picture books
  • Poetry and rhyme
  • Bilingual

Am y llyfr hwn

Mae’r detholiad hwn o hwiangerddi Cymraeg traddodiadol yn gyflwyniad gwych i rigymau gweithredu syml. Mae yma rigymau cyfri, rhigymau sy’n adrodd stori fach (er enghraifft, am ddau ar gefn ceffyl yn chwilio am gnau), a rhigymau am draed a dwylo, sy’n cymell symudiadau i gyd-fynd â’r gân, wrth gwrs. Mae’r darluniau llachar, bywiog gan Sioned Medi Evans yn dangos i’r oedolyn sy’n darllen y llyfr sut yn union i wneud y symudiadau gyda phlentyn, gan beri fod hwn yn llyfr ymarferol iawn yn ogystal â bod yn hwyl i’w ddarllen yn uchel. Mae gan bob tudalen gyfarwyddyd gweledol clir wrth ochr y geiriau Cymraeg, a dangosir ystod cynhwysol o bobl.

I’r rheiny a hoffai weld cyfieithiad Saesneg o’r holl hwiangerddi traddodiadol hyn, mae’r geiriau Saesneg yn y cefn.

Byddai’r llyfr hwn yn berffaith i’w ddarllen gyda grŵp o fabis a phlant lleiaf, gan eu hannog i ymuno â’r symudiadau, a hefyd i ddarllen un wrth un.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn