Dewi Yn Mynd I’r Parc / Zeki Goes To The Park
gan Anna McQuinn, darluniau gan Ruth Hearson
Adapted by Llinos Dafydd
Oedran diddordeb: 2 i 3
Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2024
Am y llyfr hwn
Mae hi'n ddiwrnod heulog felly mae Dewi a Mam ar y ffordd i'r parc i gwrdd â Li a'i mam i chwarae. Yn y parc, mae Dewi a Li'n marchogaeth ar geffylau chwarae, yn sblasio yn y dŵr hyfryd ac yn cael hwyl yn y tywod – ac mae cinio picnic blasus yn y cysgod hefyd. Am ddiwrnod perffaith!
Yn yr antur newydd hwn i Dewi, y canolbwynt yw diwrnod hapus yn y parc gyda Mam, gan adlewyrchu pleserau syml beunyddiol y gall plant bach uniaethu â nhw. Mae'r stori'n un syml a phleserus, perffaith i'w darllen a'i mwynhau gyda phlant 1-2 oed, gyda darluniau clir, lliwgar, ac iaith gyfeillgar, syml.
Mae holl lyfrau stori a llun cyfres Dewi'n dangos gweithgareddau beunyddiol plentyn bach du a'i deulu, wedi'u darlunio'n hardd gan Ruth Hearson. Yn Dewi yn Mynd i'r Parc / Zeki Goes to the Park, mae'n hyfryd gweld teulu amrywiol arall yn cael ei gynrychioli hefyd, yn enwedig mewn llyfr a anelir at y blynyddoedd cynnar ble mae'r gynrychiolaeth hon yn dal i fod yn brin.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Dwylo’n Dawnsio (bilingual)
2 i 4 years
-
Cwmwl Bychan / Little Cloud
2 i 7 years
-
Gwydd ar y Fferm / Goose on the Farm
2 i 7 years
-
Chwarae gyda Cymro / Playtime with Cymro
0 i 4 years