Drew, Moo and Bunny, Too
gan Owen Sheers, darluniau gan Helen Stephens
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Walker Books, 2023
Am y llyfr hwn
Mae Drew, Bunny a Moo yn ffrindiau gorau sydd yn treulio pob nos yn hedfan o gwmpas y byd ar eu carped hud. Ond pan mae’r ffrindiau’n dechrau anghytuno mae problemau yn codi. Mae’r ffrindiau yn gorfod dod o hyd i loches ar fwrdd llong môr-ladron. Ond daw’n amlwg bod trysor y môr-ladron yma yn anarferol. Wrth hwylio’r byd mae’n nhw wedi bod yn casglu’r pethau mwyaf prin ar y blaned a’u cadw ar y llong. Pan mae’r ffrindiau’n herio’r criw ynglŷn â’r trysor, mae’r môr-ladron yn troi yn eu herbyn. Yn y pen draw yr hyn sydd yn achub y ffrindiau yw cryfder eu cyfeillgarwch. Erbyn y diwedd mae nhw’n helpu’r môr-ladron i ddeall nad pethau ond atgofion o eiliadau arbennig yw’r gwir drysor. Dyma lyfr perffaith i’w ddarllen yn uchel cyn mynd i’r gwely.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Megs
5 i 9 years
-
Ysgol Arswyd
5 i 9 years
-
Unfairies
5 i 14 years
-
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2024-25: ar gyfer plant 6 i 7 oed
Y llyfrau gorau o 2024-25 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 6-7 oed