Juniper Mae: Knight of Tykotech City
gan Sarah Soh
Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Flying Eye Books, 2023
Am y llyfr hwn
Mae Juniper Mae yn byw yn ninas Tykotech sy’n hynod hei-tec, gan dreulio’i diwrnodau’n ffidlan yng ngweithdy atgyweirio’i thaid ac yn breuddwydio am fod yn ddyfeisydd yn Nhŵr Tykotech rhyw ddydd.
Fodd bynnag, mae Dinas Tykotech mewn helynt. Mae Core, y cyflenwad ynni sy’n rhedeg y ddinas gyfan, yn dioddef toriadau trydan yn barhaus sy’n golygu bod pawb heb drydan ar adegau.
Ond, pan mae Juniper ar goll yn y goedwig ar ffin y ddinas, mae hi’n sylweddoli y gallai’r goedwig fod yn dal y gyfrinach i broblem Core.
Mae’r nofel graffig annwyl hon yn ddelfrydol ar gyfer darllenwyr llai hyderus – mae’r testun syml yn adrodd stori antur ddifyr am ferch ddewr y mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn ei chyfareddu.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen
gan Siôn Tomos Owen
7 i 11 years
-
Dirgelwch y Defaid
gan Endaf Griffiths, darluniau gan James Cottell
5 i 9 years
-
Arwr Arfro: Dewis Dy Dynged
gan Llinos Dafydd, darluniau gan Amelie Amelie Ahern-Williams
7 i 11 years
-
Megs
gan Meleri Wyn James, darluniau gan Shari Llywelyn
5 i 9 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2023: 8 i 9
Y llyfrau gorau o 2023 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.