Supa Nova
gan Chanté Timothy
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Nosy Crow, 2025
Am y llyfr hwn
Nid yw’r gwyddonydd ifanc Nova yn hoffi dim mwy na chynnal arbrofion yn ei labordy cyfrinachol, y gellir ei gyrraedd trwy fynedfa gudd y tu ôl i’w chwpwrdd dillad.
Ar ôl gwylio rhaglen ddogfen am ynysoedd o wastraff plastig sy’n arnofio ar y moroedd, mae Nova yn siŵr yn gall ddod o hyd i ateb. Mae’n dechrau arbrofi ac wrth ei bodd pan fydd yn creu creadur bwyta plastig o’r enw Chomp, sy’n tyfu mewn maint wrth iddo fwyta gwastraff. Wrth i Chomp dyfu, felly hefyd y mae ei archwaeth, ac mae’n dianc i’r dref yn chwilio am fwy o bethau i’w bwyta.
Yn anffodus, nid oedd Nova wedi sylweddoli faint yn union o wrthrychau sy’n cynnwys plastig, ac mae Chomp yn achosi anhrefn trwy gnoi trwy deganau, conau traffig, a hyd yn oed ffyrdd. Gyda chymorth ei chwaer fawr Cassi a rhai teclynnau hynod ddyfeisgar - gan gynnwys peiriant telegludo ei rhieni a robot enfawr - mae Nova yn ceisio atal Chomp cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Y nofel luniau ffuglen wyddonol fywiog hon yw’r llyfr cyntaf mewn cyfres. Yn llawn hiwmor, dyfeisiau gwallgof a gwaith celf graenus a bywiog, byddai’n apelio’n arbennig i ddarllenwyr amharod.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y wyddoniaeth y tu ôl i’r stori ar ddiwedd y llyfr, ynghyd â chanllawiau cam wrth gam i dynnu lluniau rhai o’r cymeriadau.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Space Blasters: Suzie Saves the Universe
Katie & Kevin Tsang, illustrated by Amy Nguyen
5 i 9 years
-
Dymuniad Dylan I Ble Aeth yr Athrawon?
5 i 9 years
-
Ni a Nhw
5 i 9 years
-
Unfairies
5 i 11 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 8 i 9 oed
Y llyfrau gorau o 2025-6 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.