English Cymraeg

Dan y Don

gan Nicola Davies, darluniau gan Abbie Cameron

Oedran diddordeb: 6 i 7

Cyhoeddwr Graffeg, 2023

Am y llyfr hwn

Dyma lyfr ffeithiol sydd yn tywys darllenwyr ifanc i fyd o dan y môr. Yn wahanol i lyfrau ffeithiol mwy traddodiadol mae hwn yn llyfr sydd yn cyfuno mydr ac odl gyda ffeithiau er mwyn agor llygaid darllenwyr i’r byd o dan y don. Rhwng y cloriau mae yna drysorfa o iaith sydd yn cyflwyno’r darllenwyr i enwau Cymraeg creaduriaid y lli. Diolch i luniau Cameron, mae’r darllenydd yn cael gweld y golygfeydd tanddŵr fel petaen nhw ei hun yn nofio’r moroedd. Bydd y bartneriaeth rhwng y geiriau rhythmig a’r lluniau manwl yn gwneud i unrhyw blentyn fod eisiau gwisgo gwisg scwba a mentro i’r dŵr!

Dyma destun bydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd:

Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Am yr awdur

Mae Nicola Davies wedi ysgrifennu mwy na 50 o lyfrau i blant: ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn mwy na 10 o ieithoedd gwahanol ac mae hi wedi ennill gwobrau mawr yn y DU, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Eidal a’r Almaen. 

Hyfforddodd Nicola fel sŵolegydd, gan ennill gradd mewn Gwyddorau Naturiol o Goleg y Brenin, Caergrawnt. Treuliodd rai blynyddoedd fel biolegydd maes ac astudiodd forfilod cefngrwm a gwyn ac ystlumod, cyn ymuno ag Uned Hanes Byd Natur y BBC fel ymchwilydd ac yna fel cyflwynydd. 

Ar ôl dechrau ei gyrfa ysgrifennu, daeth Nicola yn uwch ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ond mae hi wedi bod yn ysgrifennu’n llawn amser ers dros ddegawd. Erbyn hyn, mae hi’n cynnal gweithdai rheolaidd i blant ac oedolion i’w helpu i ddod o hyd i’w lleisiau fel awduron ac eiriolwyr dros natur. Yn 2017, hi enillodd gwobr gyntaf y Gymdeithas Llyfrgelloedd Ysgolion am Gyfraniad Eithriadol i Lyfrau Ffeithiol i Blant, ac yn 2018 cafodd pedwar o’i llyfrau eu cynnwys ar restr hir Gwobr Greenaway. 

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn