Infertebratau Brwd!
gan Nicola Davies, darluniau gan Abbie Cameron
Adapted by Anwen Pierce
Oedran diddordeb: 6 i 7
Oedran darllen: 6+
Cyhoeddwr Graffeg, 2023
Am y llyfr hwn
Dyma lyfr ffeithiol sydd yn dathlu rhyfeddod infertebratau o bob math. Yn wahanol i lyfrau ffeithiol mwy traddodiadol, yma, mae’r ffeithiau am yr infertebratau yn cael eu trosglwyddo drwy benillion bach sydd yn cynnwys mydr ac odl. Mae cytgan syml sy’n cael ei ail-ymweld drwy’r llyfr yn wahoddiad clir i blant ymuno a darllen y testun ar goedd. Trwy gyfres o ddarluniau llawn manylion, caiff darllenwyr eu tywys o le i le er mwyn tynnu eu sylw at yr infertebratau anhygoel sydd yn y byd o'u cwmpas. Mae’n llyfr ffaith sy’n addysgu, yn diddanu ac yn agor llygaid plant i ryfeddod byd natur.
Dyma lyfr bydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iechyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Am yr awdur
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Secret World of Seahorses
gan Nicola Davies, darluniau gan Lou Baker-Smith
4 i 7 years
-
Green: The Story of Plant Life on Our Planet
gan Nicola Davies, darluniau gan Emily Sutton
4 i 14 years
-
Dan y Don
gan Nicola Davies, darluniau gan Abbie Cameron
5 i 9 years
-
Rhewyn a’r Côrachod
gan Catrin Angharad Jones, darluniau gan Sian Angharad
4 i 7 years