Call Me Lion
gan Camilla Chester
Oedran diddordeb: 9 i 11
Cyhoeddwr Firefly Press, 2022
Am y llyfr hwn
Yn brin o ffrindiau, mae Leo, sy’n ddeg oed, yn treulio’i haf unig yn ymarfer y peth y mae’n ei garu fwyaf: dawnsio.
Yna mae’n cyfarfod â’i gymdoges newydd. Yn hyderus a siaradus, mae Richa yn bopeth nad ydy Leo, ond daw’r ddau yn ffrindiau yn syth bin. Yr unig her ydy bod gan Leo fudandod dethol, ac mae’n methu siarad ag unrhyw un y tu allan i’w deulu agosaf. Diolch byth, dydy hynny’n poeni dim ar Richa ac mae hi’n ddawnswraig frwd hefyd, felly mae’r ddau yn gweddu i’w gilydd i’r dim. Daw i’r fei hefyd ei bod hi’n brwydro â’i chyfrinach ei hun...
Hanesyn hyfryd am orchfygu unigrwydd, herio’r bwlis, gorchfygu ofnau a dod o hyd i wir gyfeillgarwch.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Blockbusters!
9 i 14 years
-
Solving Crimes is NOT My Superpower
9 i 14 years
-
Land of the Last Wildcat
9 i 14 years
-
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych Cymru 2023: 8 i 9
Y llyfrau gorau o 2023 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 8-9 oed.