English Cymraeg

Brân ac Arwr y bws

gan Onjali Q Raúf
Adapted by Elidyr Jones

Oedran diddordeb: 8 i 9

Cyhoeddwr Rily Publications, 2023

Mae’r llyfr hwn ar gael hefyd mewn English

Am y llyfr hwn

Fel arfer mae’r darllenydd yn uniaethu gyda’r prif gymeriad o’r cychwyn cyntaf ond yn y llyfr hwn mae’r awdur yn gofyn inni ymgysylltu â chymeriad sydd yn cynrychioli popeth nad ydym yn ei hoffi - bwli! Mae’r stori hon yn ein herio ni i weld y tu hwnt i’n rhagfarnau ac deall bod gan bawb ei stori ei hun, nid yn unig y prif gymeriad! Yng nghanol stori afaelgar am leidr sydd yn dwyn tirnodau Llundain, mae’r darllenydd yn cyfarfod â chymeriadau dewr a chynnes sydd yn ddigartref. Mae’r awdur yn plethu datblygiad Brân o’r bwli ar ddechrau’r llyfr i’r arwr ar y diwedd, gan ddatblygu dealltwriaeth o fywyd pobl ddigartref. Mae hwn yn llyfr sydd yn mynnu bod y darllenydd yn edrych y tu ôl i’r llen ac yn edrych gyda llygaid newydd ar y byd o’u cwmpas.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn