English Cymraeg

Cyfres Maes y Mes: Rhoswen a’r Eira

gan Nia Gruffydd, darluniau gan Lisa Fox

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Lolfa, 2017

  • Chapter books
  • Fantasy

Am y llyfr hwn

Dyma un o bedwar llyfr pennod yng Nghyfres Gymraeg gwreiddiol, Maes y Mes.

Trwy lygaid Rhoswen y dylwythen deg fe welwn ni sut mae holl drigolion y goedwig yn dod i ben pan ddaw gaeaf garw i'r tir. Mae Rhoswen yn gyffro i gyd wrth weld yr holl eira sydd wedi disgyn dros nos, ond dydy hi ddim yn hir tan iddi hi sylweddoli nad yw popeth yn fêl i gyd. Ond, ar ôl ychydig bach o feddwl a chryn dipyn o help gan ffrind mae Rhoswen a'i ffrindiau i gyd yng Nghoedwig Maes y Mes yn gallu mwynhau eu hunain yn yr eira.

Mae'r llyfr pennod hwn yn berffaith ar gyfer darllenwyr annibynnol sy'n chwilio am stori dwt a chelfydd sydd â thinc o antur a pherygl. Ar ôl darllen y stori hon, beth am ddarllen gweddill y gyfres?

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn