English Cymraeg

Chwedlau’r PySgwod

gan Anni Llŷn

Oedran diddordeb: 7 i 9
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Gwasg Carreg Gwalch, 2024

  • Adventure
  • Funny

Am y llyfr hwn

Mae’r nofel hwyliog yma gan gyn Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn, yn tywys darllenwyr ifanc ar anturiaethau tanfor gyda chriw o greaduriaid arbennig Y PySgwod. Gydag enwau fel Mori y Macrell, Lobo y Cimwch a Gutun y Gragen Las wedi cyplysu â chartwnau doniol Mei Mac, mae’r nofel yn tynnu sylw plant at amrywiaeth a hynodrwydd bywyd o dan y don. Ar ddechrau’r llyfr cawn gyflwyniad ac ychydig o hanes am bob un o aelodau'r PySgwod a’u pwerau arbennig. Yna daw’r holl sgwod at ei gilydd i achub y dydd rhag drygioni'r siarcod a’r octopysau.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn