English Cymraeg

Bear and Bird: The Picnic and Other Stories

gan Jarvis

Oedran diddordeb: 6 i 8
Oedran darllen: 5+

Cyhoeddwr Walker Books, 2023

  • Funny

Am y llyfr hwn

Mae Bear a Bird yn ffrindiau gorau ac weithiau, fel llawer o ffrindiau gorau, maen nhw'n anghytuno. Ond yn ffodus, maen nhw'n ffrindiau digon da i allu anghofio unrhyw broblem neu anffawd sy'n dod i'w rhan.

Mae Bear and Bird, sy'n cynnwys pedair stori fer ddoniol, yn dweud hanes picnic nad yw'n mynd fel y disgwyl, diwrnod paentio, a blanced fflwffog iawn sy'n anodd symud oddi tani, a chamddealltwriaeth anffodus gyda blodyn sy'n siarad.

Llyfr gwirioneddol hyfryd ar gyfer egin darllenwyr, neu lyfr amser gwely ardderchog ar gyfer y rheini sydd eisiau rhywbeth fymryn mwy heriol na llyfr lluniau.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn