Ymateb BookTrust i bandemig COVID-19
Dyma gyfnod eithriadol a heriol.
Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau ein bod ni’n parhau i gyrraedd plant, teuluoedd ac ysgolion, yn enwedig y rheiny sydd fwyaf ein hangen, gyda llyfrau ac adnoddau. Fel rhan o hyn, rydyn ni’n datblygu ein cefnogaeth i deuluoedd, yn ogystal â’r ysgolion a meithrinfeydd hynny sy’n dal i fod ar agor.
Datblygwyd ein hwb AmserGartref BookTrust ar gyfer teuluoedd sydd â phlant gartref, ac mae’n llawn dop o gyngor, syniadau ac adnoddau am ddarllen. Mae amser gartref yn gyfle gwych i ddarganfod ysbrydoliaeth mewn llyfrau, darganfod arfer newydd a datguddio diddordeb newydd.
Dilynwch #AmserGartrefBookTrust a #LlyfrauYnUno ar y cyfryngau cymdeithasol i gael deunydd newydd bob dydd.