Dan y Don

Publisher: Graffeg

Dyma lyfr ffeithiol sydd yn tywys darllenwyr ifanc i fyd o dan y môr. Yn wahanol i lyfrau ffeithiol mwy traddodiadol mae hwn yn llyfr sydd yn cyfuno mydr ac odl gyda ffeithiau er mwyn agor llygaid darllenwyr i’r byd o dan y don. Rhwng y cloriau mae yna drysorfa o iaith sydd yn cyflwyno’r darllenwyr i enwau Cymraeg creaduriaid y lli. Diolch i luniau Cameron, mae’r darllenydd yn cael gweld y golygfeydd tanddŵr fel petaen nhw ei hun yn nofio’r moroedd. Bydd y bartneriaeth rhwng y geiriau rhythmig a’r lluniau manwl yn gwneud i unrhyw blentyn fod eisiau gwisgo gwisg scwba a mentro i’r dŵr!

Dyma destun bydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd:

Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.


This non-fiction book guides young readers to an undersea world. Unlike more traditional non-fiction books, this book combines metre and rhyme with facts in order to open readers’ minds to the undersea world. Between the covers is a wealth of language that introduces readers to Welsh names of sea creatures. Thanks to Cameron’s illustrations, the reader can see underwater scenes as if they themselves were swimming the seas. The partnership between the rhythmic words and the detailed pictures will make any child want to wear a scuba suit and venture into the water!

A subject that will stimulate interest across the curriculum but especially in the areas of:

Science and Technology, Humanities, Languages, Literacy and Communication.

More books like this

Nye: Bywyd Angerddol Aneurin Bevan

Author: Manon Steffan Ros Illustrator: Valeriane Leblond

Mae'r llyfr yn llwyddo i gyfleu hanes y gwleidydd Aneurin Bevan o'i blentyndod caled yng nghymoedd y De, hyd at uchafbwynt ei yrfa, sef sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.


The book succeeds in conveying the history of the politician Aneurin Bevan from his hard childhood in the valleys of south Wales, to the pinnacle of his career – establishing the Na…

Read more about Nye: Bywyd Angerddol Aneurin Bevan

Am Dro Gyda Maia

Author: Moira Butterfield Adapted by Nia Morais Illustrator: Kim Geyer

Llyfr sydd yn dathlu pethau syml bywyd yw hwn ac un sydd yn gwneud i’r darllenwr sylwi ar holl  harddwch y byd o’n cwmpas. Wrth droi’r tudalennau rydyn ni’n dilyn taith Dad a Maia wrth iddyn nhw fynd am dro. Mae’r ddau yn ffeindio hwyl ac hapusrwydd ym mhob man wrth iddyn nhw chwarae gemau, edrych a gwrando yn ofalus ar y byd o’u cwmpas.


This book cele…

Read more about Am Dro Gyda Maia

Share this book with your friends

Use our Bookfinder to discover the perfect children's books for every age...