Fideos Her yr Ungorn
Dyma rai fideos rhyngweithiol i’ch helpu chi i gael hwyl gyda’ch cylchgrawn Her yr Ungorn. Ymunwch gydag anturiaethwyr Pori Drwy Stori a dechreuwch ar eich antur Her yr Ungorn!
Her Antur
Mae Fy Her Gyntaf yn gyfle gwych i ymarfer eich sgiliau cyfrif. A ddewisiwch chi fynd ar antur tu fas gyda Dewr neu antur yn y tŷ gydag Aled?
Gweld a Galw
Bydd angen sgiliau sylwi, cyfrif a chanolbwyntio gwych ar gyfer Fy Her yn y Parc. Chwarae Gweld a Galw gyda’r anturiaethwyr Pori Drwy Stori ac yna beth am geisio chwarae gartref?
Rhannu Rhigwm
Mae dysgu ac ailadrodd rhigymau a chaneuon yn ffordd wych o ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad. Bydd yr anturiaethwyr yn eich helpu i ddysgu rhigwm o gylchgrawn Her yr Ungorn neu I ffurfio rhigwm eich hun!
Amser Parti
Gall Fy Her Amser Te gefnogi datblygiad sgiliau rhifedd a sgiliau iaith. Ymunwch ag anturiaethwyr Pori Drwy Stori wrth iddynt baratoi parti ar gyfer Ted a’i ffrindiau.
Rhannu Stori
Mae rhannu llyfrau a straeon yn hwyl! Siarad, chwerthin a chwarae gyda’ch gilydd wrth i chi wrando ar stori Dewr. Beth am geisio dweud eich stori eich hun neu ddod o hyd i lyfr gwych i’w rannu?