Wythnos Genedlaethol Dechrau Da 2018 yng Nghymru

Fe ymunodd teuluoedd â’r Ddawns Deryn Dechrau Da benigamp eleni, ac rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gwneud rhodd o fwy na 8,500 o lyfrau mewn digwyddiadau arbennig ledled Cymru.

Ein llyfr arbennig iawn eleni oedd A Busy Day for Birds / Diwrnod Prysur yr Adar, sydd wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan Lucy Cousins, a’i addasu gan Aneirin Karadog.

Welsh cover of Busy Day and peacock

Darluniau © 2017 Lucy Cousins

Adnoddau ar gyfer Wythnos Genedlaethol Dechrau Da

Taflenni rhigymau

Rhigymau i’w dweud a’u canu

Gallwch chi ddefnyddio ein rhigymau ar thema yn eich sesiynau a helpu rhieni / gofalwyr i ymuno â’r hwyl.

Taflenni lliwio

Adar i’w lliwio

Gall teuluoedd fod yn greadigol yn y gweithgaredd difyr hwn – y cyfan sydd ei angen arnyn nhw ydy ychydig o benseli a chreonau!

Taflenni crefft

Creu tylluan arbennig

Gallwch chi argraffu ein dalen grefft a gall y plant greu eu penwisg tylluan arbennig eu hunain!

Poster cyffredinol

Hysbysebu eich Dawns Deryn Dechrau Da

I hybu Wythnos Genedlaethol Dechrau Da yn eich lleoliadau chi. Un dalen A4.

Poster bol-gwag

Ychwanegowch fanylion eich digwyddiad

Defnyddiwch ein poster lliwgar i hysbysebu eich digwyddiadau a gweithgareddau lleol. Un dalen A4.

Poster y gellir ei olygu

Golygwch eich poster eich hun

Fersiwn A4 Microsoft Word o’n poster bol gwag y gallwch chi ei olygu a’i bersonoli. Un dalen A4.

Stori a rhigymau sain

Rhigymau Dawns Deryn Dechrau Da - Cymraeg

Rhigymau Dawns Deryn Dechrau Da - Saesneg

Diwrnod Prysur yr Adar Darlleniad gan Llinos Mai - Cymraeg