Manteision darllen

O fabis i blant yn eu blynyddoedd cynnar, yr holl ffordd drwodd i’r arddegau cynnar, mae darllen yn dod â manteision dwfn ac eang yn ei sgil sy’n gallu cael effaith gadarnhaol gydol oes ar fywydau plant.

Lawrlwytho’r PDF yn Saesneg

Lawrlwytho’r PDF

Mam a’i mab yn darllen yn y gwelyMam a’i mab yn darllen yn y gwely

Mae darllen yn cynorthwyo plant i oresgyn anfantais

  • Byddan nhw’n profi gwell symudedd addysgol a symudedd cymdeithasol

    • Mae gan ddarllen er pleser y pŵer i helpu i liniaru anghydraddoldebau economaiddgymdeithasol fel incwm teuluol isel a chefndir addysgol.
  • Mae’r rhai sy’n cael eu magu mewn tlodi yn llai tebygol o aros mewn tlodi fel oedolion.

    • Mae gan blentyn sy’n tyfu i fyny mewn tlodi ac sydd â rhywun yn darllen iddyn nhw yn bump oed obaith sylweddol uwch o lwyddiant economaidd yn eu 30au na’u cyfoedion sydd heb rywun yn darllen iddyn nhw.
  • Drwy gydol yr ysgol, maen nhw’n fwy tebygol o oresgyn y rhwystrau sy’n cael eu hachosi gan anfantais

    • Mae darllen ar y cyd yn cael effaith unigryw a thrawsnewidiol ar gyrhaeddiad ysgol. Mae darllen ar y cyd gartref yn cael mwy o ddylanwad ar berfformiad academaidd plant na goruchwyliaeth rhieni, rheoli gwaith cartref neu bresenoldeb yng ngweithgareddau’r ysgol.
    • Mae plant dan anfantais sy’n cyflawni ar lefel uchel ar ddiwedd yr ysgol gynradd ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi bod â rhywun yn darllen iddyn nhw gartref yn eu blynyddoedd cynnar o gymharu â’u cyfoedion.
    • Mae plentyn sy’n ddarllenwr brwd yn rhoi cyfleoedd dysgu hunan-gynhyrchiol i’w hun sy’n gyfwerth â sawl blwyddyn o addysg.
    • Mae effaith darllen er pleser bedair Gwaith yn fwy pwerus o ran cynnydd mewn geirfa, mathemateg a sillafu yn 16 oed, nag addysg rhieni neu statws economaiddgymdeithasol rhieni.
    • Mae plant difreintiedig 11–14 oed sy’n darllen yn eu hamser eu hunain ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi gartref yn fwy tebygol o gyflawni tri chymhwyster Safon Uwch neu fwy, o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n ymwneud â’r gweithgareddau hyn.

Gwell lles meddyliol, sgiliau cymdeithasol a pherthnasoedd cryff

  • Maen nhw’n teimlo’n fwy diogel ac yn datblygu cysylltiadau dwfn â rhieni a gofalwyr

    • Fel gweithgaredd bondio, mae darllen ar y cyd yn eu blynyddoedd cynnar yn helpu plentyn i ddatblygu ymlyniad (pa mor ddiogel ac ymddiriedus y maen nhw’n teimlo yng nghwmni eu rhiant neu ofalwr). Mae ymlyniad yn hanfodol i hapusrwydd plenty yn y dyfodol, eu cymhwysedd cymdeithasol, a’u gallu i ffurfio cysylltiadau ystyrlon. Mae’r ffaith bod eu rhiant neu ofalwr ar gael wrth ddarllen ar y cyd yn cyfrannu at ymdeimlad plentyn o ddiogelwch.
    • Mae darllen ar y cyd yn creu cyfleoedd ar gyfer sylw ar y cyd ac agosatrwydd emosiynol rhwng plentyn a’u rhiant neu ofalwr. Mae darllen ar y cyd yn cynyddu cynhesrwydd rhieni ac yn lleihau straen ar rieni, gan eu galluogi i gynnig y rhyngweithio sensitif a meithringar sydd ei angen ar eu plant i ffynnu. 
    • Mae plant sydd ag ymlyniadau cadarn yn fwy tebygol o ddangos brwdfrydedd a sylw wrth ddarllen ar y cyd, sy’n cymell eu rhiant neu ofalwr i ddarllen gyda nhw’n amlach ac yn atgyfnerthu eu cyfle i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu hamddiffyn. 
    • Yr agweddau emosiynol ar ddarllen ar y cyd (e.e. cwtsio, gwenu, canu, a chwerthin) sy’n rhoi hwb i weithgareddau ymennydd plenty sydd eu hangen i feithrin ymlyniad cadarn, nid sgiliau darllen y rhiant neu ofalwr. 
  • Mae ganddyn nhw drefn ac arferion iach

    • Mae darllen ar y cyd yn chwarae rôl wrth hybu arferion amser gwely sy’n helpu i ymlacio a rhoi cysur. Mae arferion amser gwely sy’n seiliedig ar iaith, fel darllen, yn gysylltiedig â’r ffaith bod rhieni ar gael yn fwy yn emosiynol ac yn rhoi mwy o sylw. Gall trefn arferol hybu’r amgylchedd diogel, sefydlog a rhagweladwy sydd ei angen i hwyluso datblygiad iach plant. 
    • Mae darllen er pleser hefyd yn hybu trefn arferol yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae plant 11–14 oed sy’n darllen er pleser yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiadau iach.
  • Mae ganddyn nhw sgiliau cymdeithasol-emosiynol gwell

    • Mae plant sy’n darllen mwy yn perfformio’n well mewn tasgau dangos sylw ac mae ganddynt lefelau is o orfywiogrwydd. 
    • Mae darllen yn gysylltiedig â gwell sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol, gan helpu plant i ffurfio perthnasoedd ystyrlon. 
  • Mae ganddyn nhw well lles meddyliol a hunan-barch

    • Drwy ddarparu dihangfa a chyfle i ymlacio, gall darllen fod yn ffactor amddiffynnol yn erbyn yr adfyd y mae rhai plant yn ei wynebu. 
    • Mae gan blant sy’n darllen er pleser yn rheolaidd well hunan-barch ac maen nhw’n well ar reoleiddio eu hemosiynau. Mae ganddyn nhw lefelau is o heriau emosiynol ac ymddygiadol fel gorbryder ac ymddygiad ymosodol na’r rhai sydd ddim yn darllen er pleser.
    • Mae gan blant sy’n darllen lefelau uwch o les meddyliol a hapusrwydd.

Bachgen a’i fam yn darllen gyda’i gilyddBachgen a’i fam yn darllen gyda’i gilydd

Gyrraedd cerrig milltir lleferydd ac iaith/gwneud yn well yn yr ysgol

  • Mae ganddyn nhw well datblygiad ymennydd, sylw a gallu gwybyddol

    • Mae ymennydd plentyn yn tyfu fwyaf yn eu 5 mlynedd gyntaf, pan fydd eu hymennydd yn fwyaf ymatebol i’w hamgylchedd. Mae ysgogiad o ddarllen llyfrau, chwarae, siarad, a chanu gyda rhiant neu ofalwr yn cyflawni swyddogaeth niwrolegol bwysig, gan wella twf gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y plant. 
    • Mae darllen ar y cyd ymhlith plant o gefndiroedd incwm isel yn gwella gweithrediad iach yr ymennydd mewn iaith, sylw, cof, hunanreolaeth ac addasu. 
    • Mae gan ddarllen er pleser fanteision cadarnhaol hirhoedlog ar ddatblygiad yr ymennydd. Mae plant iau sy’n darllen mwy yn sgorio’n well ar brofion gwybyddol. 
  • Maen nhw’n fwy parod i fynd i’r ysgol ac mae ganddyn nhw well gwybodaeth am y byd

    • Mae gan blant sy’n dechrau darllen yn gynnar ac sy’n parhau i ddarllen drwy gydol eu plentyndod fwy o wybodaeth gyffredinol. Mae darllen yn helpu i hybu a chynnal taith ddysgu barhaus plentyn.
    • Mae darllen yn gwella cyrhaeddiad addysgol. Drwy fwydo i mewn i ddatblygiad sgiliau gwybyddol, ffurfiau o resymu, cysyniadau cymhleth a chyfoeth dychmygus, mae darllen yn cynorthwyo plant i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau a’u galluoedd deallusol.
  • Mae ganddyn nhw well datblygiad lleferydd ac iaith a sgiliau llythrennedd.

    • Mae darllen ar y cyd yn rhoi cyfleoedd heb eu hail i blentyn ryngweithio ar lafar gyda’u rhiant neu ofalwr. Ymhlith y nifer o weithgareddau allweddol yn ystod plentyndod fel chwarae gyda theganau, celf a chrefft neu rannu amseroedd bwyd, mae gan ddarllen ar y cyd werth arbennig wrth greu’r cyfleoedd hyn. 
    • Mae darllen ar y cyd yn rhoi cyfle i blant ddod i gyswllt â geirfa gyfoethog a newydd mewn cyd-destunau ystyrlon.
    • Mae darllen ar y cyd yn helpu plant i ddysgu geiriau. Gan fod y ffocws yn gyfan gwbl ar y stori, nid oes rhaid i’r plant ganfod geiriau newydd o’r ffrwd o weithgareddau parhaus fel y bydden nhw wrth chwarae’n rhydd.
    • Mae sawl mantais i ddarllen ar y cyd o ran canlyniadau iaith a llythrennedd plentyn yn y blynyddoedd cynnar, sydd o gymorth iddyn nhw fod yn barod i fynd i’r ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys maint geirfa, sgiliau iaith lafar, ymwybyddiaeth o brint, adnabod geiriau a sgiliau deall. 
    • Mae effaith darllen ar y cyd ar lythrennedd yn unigryw. Ymhlith gweithgareddau dysgu gartref fel cymorth rhieni wrth ddarllen ac ysgrifennu, chwarae cerddoriaeth neu ddysgu’r wyddor, dim ond darllen ar y cyd sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar asesiad llythrennedd ar ddiwedd Dosbarth Derbyn.
    • Mae effaith darllen ar y cyd ar lythrennedd yn hirdymor. Mae plant sydd â rhywun yn darllen iddyn nhw’n aml yn bump oed dros hanner blwyddyn ysgol ar y blaen o ran perfformiad darllen yn 15 oed, o gymharu â rhai sydd â rhywun yn darllen iddyn nhw’n anaml neu rai sydd heb rywun yn darllen iddyn nhw o gwbl. 
  • Maen nhw’n gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm

    • Mae darllen er pleser yn datgloi llwyddiant academaidd ar draws y cwricwlwm. Mae plentyn sydd â rhywun yn darllen iddyn nhw’n 1-2 oed yn sgorio’n uwch mewn sgiliau darllen, sillafu, gramadeg a rhifedd yn 8-11 oed.
    • Mae darllen er pleser yn 10 ac 16 oed yn cael effaith sylweddol ar sgorau gwybyddol plentyn mewn geirfa, sillafu, a mathemateg yn 16 oed.

Ddatblygu dychymyg, empathi a chreadigrwydd

  • Mae ganddyn nhw fwy o empathi

    • Mae empathi yn cyfeirio at y gallu I werthfawrogi, teimlo, deall a pharchu profiadau pobl eraill. Mae darllen ar y cyd yn meithrin galluoedd theori meddwl a sgiliau empathig.
    • Gall storïau gynnig ‘drych’ realistig a dilys i blant ar eu bywydau a’u profiadau eu hunain a ‘ffenestr’ i weld profiadau pobl eraill. Pan fydd plant yn ymwneud â stori mewn modd emosiynol, fe fyddan nhw’n teimlo bod ganddyn nhw gyswllt â’r profiad dynol ehangach ac yn gweld eu bywydau fel rhan ohono. Gall hyn fod yn drawsnewidiol o ran datblygu eu hempathi. 
    • Mae gan blant sy’n darllen llyfrau sy’n cynnig cyfleoedd i uniaethu â’r cymeriadau lefelau uwch o empathi, yn enwedig tuag at grwpiau sydd wedi’u stigmateiddio.
  • Maen nhw’n fwy creadigol a dychmygus

    • Mae ymwneud â storïau yn meithrin y meddylfryd a’r sgiliau sy’n sylfaenol I greadigrwydd plentyn drwy gydol eu plentyndod. Mae storïau sydd ag elfennau dychmygus a hudolus yn galluogi meddyliau plant i godi uwchlaw eu cyd-destun uniongyrchol, gan eu rhyddhau o ffordd sefydlog o feddwl.
    • Drwy ffurfio ac ailffurfio eu disgwyliadau o’r hyn a allai ddigwydd mewn stori yn gyson, mae darllenwyr ifanc yn ymarfer hyblygrwydd meddyliol, bod yn agored i sefyllfaoedd a dehongliadau newydd, a datrys problemau.
    • Gall stori hefyd ysgogi dramateiddio, gan ganiatáu i blant ddefnyddio eu dychymyg i wneud y stori’n weledol, i’w mynegi mewn geiriau, neu i’w hactio. 
    • Mae plant sydd â rhywun yn darllen iddyn nhw’n dair oed yn gwneud mwy o gynnydd mewn datblygiad creadigol ar ddiwedd Dosbarth Derbyn na’r rhai nad oes â rhywun yn darllen iddyn nhw.