Dyma becyn Teithiau ac Anturiaethau

Mae eich pecyn Teithiau ac Anturiaethau oddi wrth BookTrust Cymru yn cynnwys llyfrau wedi’u dewis yn arbennig i chi eu darllen, eu cadw a’u mwynhau.

Rydym ni’n gwybod bod gwahanol lyfrau yn apelio at wahanol bobl, felly rydym ni wedi dewis tri llyfr gwahanol iawn i chi gael eu harchwilio. Gobeithio’n wir y byddwch chi’n mwynhau o leiaf un ohonyn nhw, ac y gwenwch chi hefyd ddod o hyd i fideos a gweithgareddau fan yma i’ch helpu i wneud y gorau o’ch llyfrau newydd!

Noder: Rydym ni weithiau’n rhannu dolenni i wefannau trydydd parti, gan gynnwys YouTubJourneys and Adventures books and resources

Dyma’r llyfrau ym mhecyn llyfrau Cymraeg Teithiau ac Anturiaethau.

Cliciwch ar Saesneg i weld y gweithgareddau a’r adnoddau ar gyfer y llyfrau yn y pecyn Saesneg.

Trio ac Antur y Mileniwm

Mae criw ffrindiau Trio yn dwlu ar anturiaethau ac yn benderfynol o achub y byd – neu o leiaf achub Cymru!

Beth am ddarllen y bennod gyntaf ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur?

Llyfr Hwyl y Lofa

Llyfr yn llawn o jôcs, cerddi digri a phob math o bethau gwirion.

Creu comic Bloben gyda Huw Aaron

Cymru ar y Map Llyfr Gweithgaredd

Pa mor gyfarwydd ydych chi â Chymru, go iawn? Profwch eich gwybodaeth, dysgwch ambell ffaith ryfeddol, a mwynhewch y gweithgareddau yma.

Profwch eich gwybodaeth gyda Chwis Cymru ar y Map

Beth am ddylunio eich baner eich hun?

Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau

Mae Boc y ddraig ar goll ym myd chwedlau Cymru. Allwch chi ddod o hyd iddo? A beth arall allwch chi ddarganfod ym myd rhyfedd y Mabinogi a chwedlau eraill Cymru?

Sut i arlunio Boc gyda Huw Aaron

Llythyr i blant

Llythyr atyniadol i blant gyda gwybodaeth am y llyfrau ym mhecyn Teithiau ac Anturiaethau.

Llythyr i athrawon

Llythyr Teithiau ac Anturiaethau ar gyfer athrawon yn rhoi gwybodaeth am y prosiect a'r pecynnau.

Llythyr i rieni a gofalwyr

Mae'r llythyr i rieni, yn Saesneg a Chymraeg, yn cynnwys awgrymiadau ar sut y gall teuluoedd gefnogi prosiect Teithiau ac Anturiaethau gartref.

Dalen-nodyn Teithiau ac Anturiaethau

Fersiynau Cymraeg a Saesneg o dalen-nodyn lliwgar Teithiau ac Anturiaethau.

Cerdyn post

Defnyddiwch y cerdyn post hwn i ddweud wrthym beth oeddech chi'n ei feddwl o'ch llyfrau Teithiau ac Anturiaethau.

Agorwch y cwpwrdd AmserGartref

Ydych chi wedi methu rhai o drêts cyffrous AmserGartref y BookTrust? Peidiwch â phoeni – rydyn ni’n storio pob un ohonyn nhw yn y Cwpwrdd AmserGartref ar eich cyfer! Gallwch chi ei agor i fwynhau amseroedd stori, canllawiau tynnu lluniau, gweithgareddau a llawer mwy o drêts.

 

Dysgu rhagor