Awgrymiadau gan Rannwr Straeon blynyddoedd cynnar: cyflwyno amser stori diddorol

Fel rhan o Wythnos Rhanwyr Straeon, gwnaethom ofyn i Marian Lowndes Sanderson o Hybiau i Deuluoedd Cyngor Dinas Doncaster yng Nghanol Doncaster sut mae hi a’i thîm yn creu sesiynau amser stori effeithiol i deuluoedd gan ddefnyddio Jump About with Ted gan Sophy Henn – sydd wedi’i gynnwys ym Mhecyn Adrodd Straeon BookTrust

woman holding up book to the camera

Helo bawb. Fy enw i yw Sophy Henn, ac rwy’n ysgrifennu straeon ac yn tynnu lluniau i fynd gyda nhw. Ac un o’r gyfres o straeon rwyf wedi’u hysgrifennu a’u llunio yw hwn, cyfres llyfrau bwrdd Ted. 

Nawr, mae Ted yn fachgen bach gyda dychymyg mawr. Felly gadewch i ni ddarganfod ble mae’r dychymyg hwnnw’n mynd â Ted heddiw, yn Jump About with Ted.

Ydych chi’n eistedd yn gyfforddus? Yna fe wna’ i ddechrau.

Hei, Ted, beth wyt ti’n ei wneud heddiw? Ha ha!” meddai Ted, Edrych arna’ i. Rwy’n bownsio o gwmpas fel cwningen snwfflyd flewog!”

Bowns, bowns! Snwffl. 

Hei, Ted, wyt ti’n dal i fownsio fel cwningen? O, na!” meddai Ted. Nawr rwy’n prancio i fyny ac i lawr fel oen bach gwlanog!”

Sbonc, sbonc, mê.

Hei, Ted, wyt ti’n dal i brancio fel oen? Wrth gwrs ddim,” meddai Ted. Rwy’n neidio o gwmpas fel broga doniol, crawclyd”.

Boing, boing, crawc.

Hei, Ted, wyt ti’n dal i neidio fel broga? Dim nawr,” meddai Ted. Alli di ddim gweld? Rwy’n hopian i bobman fel cyw fflwfflyd sy’n twîtian!”

Hop, hop, twît twît. 

Hei, Ted, wyt ti’n dal i hopian fel cyw? Ha ha,” meddai Ted, Tyrd i weld. Rwy’n bownsio o gwmpas gyda fy holl ffrindiau!”

Snwffl, mê, crawc, twît. 

Wel, cafodd Ted a’i holl ffrindiau lawer o hwyl yn neidio. Wnaethoch chi neidio o gwmpas hefyd? Efallai.

Wel, gobeithio eich bod wedi mwynhau’r stori yna. Diolch yn fawr am wylio. Hwyl!

Lluniwch gynllun o amgylch y themâu, yr ymadroddion a’r symudiadau yn y stori

Fel tîm, bydden ni’n gwylio’r fideo hwn i gael rhai syniadau ar gyfer rhannu’r stori yn ystod amser Wriggle and Rhyme, yn ogystal â’i chysylltu â’r sesiwn Aros a Chwarae ehangach wedyn. 

Bydden ni’n dechrau trwy edrych ar themâu yn y stori. Er enghraifft, gyda Jump About with Ted, efallai y byddwn ni’n canolbwyntio ar yr anifeiliaid sy’n cael eu crybwyll. Byddwn ni’n meddwl am y rhigymau am anifeiliaid y gallwn ni eu cynnwys, a sut y gallen ni gael basged o bropiau a phypedau anifeiliaid i gefnogi’r stori. 

Bydden ni’n edrych ar ymadroddion sy’n cael eu hailadrodd, a sut y gallwn ni ailadrodd y rheini yn y rhigymau sy’n cael eu dewis gennym i gefnogi lleferydd ac iaith. 

Mae’r stori hon yn llawn symudiadau fel bownsio a neidio, felly efallai y byddwn ni’n cynllunio i wneud rhai caneuon symud. Efallai y byddwn ni hefyd yn defnyddio Lycra i fownsio’r pypedau i fyny yn yr awyr. 

Mae amrywiaeth o ieithoedd yn cael eu siarad yn ein hybiau i deuluoedd. Efallai y byddwn ni’n cyfieithu rhai geiriau allweddol o’r stori i’r ieithoedd hyn ochr yn ochr â lluniau a’u lamineiddio ar arwyddion – pethau fel enwau anifeiliaid a symudiadau. Rydyn ni’n gweld bod hyn wir yn helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn yr amser stori.” 

woman sitting down on floor in library

Marian Lowndes Sanderson o Ganolfannau Teulu Doncaster 

Ewch ati i ymarfer eich perfformiad – gwnewch e mewn parau i roi hwb i’r hyder

I’r rhai sydd efallai’n teimlo ychydig yn nerfus am ddarllen yn uchel, gall gwylio’r fideo hwn a gweld y ffordd y mae Sophy Henn yn darllen ei stori ei hun helpu i roi rhai syniadau ar sut i wneud yr un peth. Mae hi’n frwdfrydig iawn am gyfleu’r stori a dyna’r hyn sydd angen i ni ei gofio, y brwdfrydedd yw’r hyn sy’n gweithio. 

Rhowch gyfle i chi’ch hun ddarllen y llyfr yn iawn cyn y sesiwn. Meddyliwch am y geiriau sy’n cael eu rhannu yn y stori. Sut allwch chi ddefnyddio’ch llais i fod yn fwy mynegiannol. Pa fynegiannau wynebol y gallech chi eu gwneud? 

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo braidd yn dwp yn gwneud wynebau a synau, dydy’r plant ddim yn meddwl ei fod yn wirion, fe fyddan nhw wrth eu boddau, oherwydd rydych chi’n dod â’r stori’n fyw. 

Os nad yw pawb yn teimlo’n hyderus am ddarllen straeon, rydyn ni’n tueddu i ffurfio parau, fel y gall y person hwnnw chwarae rôl fwy cefnogol, neu gall arwain y rhigymau yn lle hynny. Gall gweld aelod mwy profiadol o’r tîm yn darllen y stori ei helpu i deimlo’n fwy hyderus.” 

Gwnewch i deuluoedd godi ar eu traed – a chymerwch eich amser

Ceisiwch gynnwys y teuluoedd yn yr amser stori bob amser. Lle bo’n bosibl, mae sicrhau bod gan bob teulu gopi o’r llyfr wrth i ni ddarllen y stori yn eu helpu nhw i ganolbwyntio. 

Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod teuluoedd yn codi ar eu traed ac yn symud, yn cefnogi eu plentyn, yn gwneud y symudiadau eu hunain. Mae hynny’n annog y plant i ymuno. 

Mae’r amser stori yn rhoi syniadau iddyn nhw am sut y gallen nhw rannu’r stori gartref. Os nad yw teuluoedd yn teimlo’n hyderus, rydyn ni’n eu hannog trwy ddweud: Does dim rhaid i chi ddarllen y llyfr cyfan bob tro, ewch ati i ganolbwyntio ar un dudalen efallai. Neu, canolbwyntiwch ar wneud y synau anifeiliaid. 

Pan fyddwch chi’n darllen y stori yn uchel, cofiwch oedi. Rydyn ni i gyd yn tueddu i ddarllen yn rhy gyflym, ac mae’n demtasiwn i ruthro ymlaen i’r gweithgaredd nesaf yn syth. Rhowch ychydig o amser i blant brosesu’r stori a’r geiriau. Rydyn ni hefyd yn ailadrodd yr un llyfr sawl gwaith yn yr un sesiwn.”

Cysylltwch y stori â’r gweithgareddau chwarae wedyn

Ar ôl i’r stori gael ei hadrodd, cadwch y cysylltiad â hi yn fyw trwy weithgareddau chwarae. Sut allech chi drefnu’r propiau rydych chi wedi’u defnyddio yn ystod yr amser stori ar gyfer Aros a Chwarae? Neu gallech chi greu rhywbeth gwahanol i deuluoedd ei archwilio wedyn? 

Er enghraifft, gyda Jump About with Ted, gallech chi gael fferm yn y gornel bydoedd bach. Gallech chi gael yr un pypedau rydych chi wedi’u defnyddio mewn basged gyda’r llyfr yn y gornel lyfrau – yn ogystal â rhai llyfrau eraill am anifeiliaid. Efallai y tu allan, gallen nhw wneud cwrs ymosod gyda symudiadau o’r stori, fel sgipio a neidio, fel eich bod chi’n atgyfnerthu’r symudiadau maen nhw wedi’u dysgu.”

Ysbrydolwch deuluoedd i barhau i gael hwyl gartref

Bydden ni’n darparu dolen i’r fideo o Sophy Henn yn darllen Jump About with Ted i deuluoedd wylio eu hunain gartref. Efallai y byddwn ni’n ei rannu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu’n rhoi cod QR ar eu gyfer ar daflen. 

Mae mor hyfryd i deuluoedd weld y person y tu ôl i’r stori, ac i weld yr awdur yn darllen ei lyfr ei hun. Mae Sophy yn darllen y stori gyda chymaint o frwdfrydedd yn y fideo hwn, ac rwy’n credu y byddai hyn wir yn dod drosodd i deuluoedd.”