"Fel storïwr, un o'r pethau gorau i'w weld yw'r rhyngweithio rhwng oedolion a'u babanod."
Dyma Rhian Green, Swyddog Cymraeg i Blant yn Sir Benfro, ac un o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer gwobr ‘Rhannwr Straeon y Flwyddyn’ BookTrust y llynedd. Dyma sut mae ei sesiynau cynhwysol, creadigol a dwyieithog yn cyflwyno teuluoedd i bŵer straeon a rhigymau i gefnogi datblygiad lleferydd ac iaith babanod.
Rhian Green (chwith) gyda rhieni a phlant mewn sesiwn, yn rhannu rhaglenni Dechrau Da Babi a Dechrau Da i Blant Bach
Mae Rhian Green yn arbenigwr dwyieithog ym maes rhannu straeon ar gyfer Cymraeg i Blant – menter gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi rhieni i gyflwyno’r iaith Gymraeg i’w cartrefi.
Dywed Rhian: “Mae ein sesiynau’n ffordd dyner o gyflwyno’r Gymraeg i unrhyw un, waeth beth fo’r iaith mae’n ei siarad gartref. Drwy ddod bob wythnos, mae teuluoedd yn gwneud ffrindiau ac yn magu hyder i geisio defnyddio ychydig o Gymraeg.”
Mae rhannu llyfrau a rhigymau yn rhan ganolog o waith Rhian, gan fod hyn yn cyflwyno geirfa a dealltwriaeth newydd i deuluoedd, ac yn cefnogi datblygiad cynnar lleferydd ac iaith i blant yn eu blynyddoedd cynharaf. Ar yr un pryd, mae Rhian yn ymwybodol iawn nad oes gan bob teulu’r un hyder i rannu llyfrau gyda’i gilydd.
“Doeddwn i ddim wir yn arfer hoffi darllen fy hun, hyd yn oed pan oeddwn i’n oedolyn ifanc,” meddai. “Erbyn hyn, rwy’n mynnu cael rhannu straeon mewn amrywiaeth o arddulliau gwahanol, fel nad oes neb yn teimlo eu bod wedi’u gadael allan.
“Rwyf bob amser yn esbonio i deuluoedd nad oes ots os na allant ddarllen y geiriau mewn llyfr. Os gallant adnabod rhywbeth yn y lluniau a dweud beth maent yn ei weld, gallant fwynhau’r teimlad a ddaw wrth ddarllen llyfr.”
Rhannu straeon ar gyfer datblygu iaith a meithrin cysylltiadau
Yn ei gwaith bob dydd yn cynnal sesiynau dwyieithog am ddim i deuluoedd, sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth i rieni newydd, mae Rhian yn defnyddio rhaglenni Dechrau Da gan BookTrust, gan gynnwys Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar, sydd wedi’u cynllunio i gefnogi teuluoedd ledled Cymru i ddarllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.
“Mae gan bawb berthynas wahanol â llyfrau,” meddai. “Mae rhaglenni Dechrau Da yn helpu i gyfleu hynny. Mae taflenni rhigymau i gyd-fynd â’r llyfrau, yn ogystal â syniadau crefft a chodau QR y gallwch eu sganio i fynd i wefan BookTrust am ragor o gymorth. Mae pethau sy’n gweddu i arddulliau gwahanol [o ymgysylltu â straeon].”
Mae llyfrau dwyieithog o ansawdd uchel, Dechrau Da (yn Gymraeg ac yn Saesneg) yn adnodd defnyddiol i Rhian. “Mae llyfrau Dechrau Da yn boblogaidd ac yn cael eu defnyddio’n helaeth. Maen nhw’n berffaith ar gyfer y sesiynau rydyn ni’n eu cynnal. Ac efallai mai Dechrau Da Babi fydd llyfr cyntaf teulu i’w babi. Mae rhywbeth arbennig iawn am hynny.
“Rwy’n dosbarthu llyfrau Dechrau Da ar ddechrau’r sesiwn. Rydyn ni’n treulio amser yn trafod y wybodaeth sydd ar y pecyn Dechrau Da, ac yna’n edrych ar y llyfr sydd ynddo.
“Mae pawb yn eistedd gyda’u babi neu eu plentyn bach yn eu côl, ac maen nhw’n darllen y llyfr gyda’i gilydd.”
“Fel storïwr, un o’r pethau gorau i’w weld yw’r rhyngweithio rhwng oedolion a’u babanod, a’u gweld nhw wedi ymgolli mewn llyfr gyda’i gilydd.”
Cyfuno rhigymau a straeon â thylino babanod a theithiau i’r traeth
Mae Rhian hefyd yn arwain dosbarthiadau dwyieithog tylino ac ioga i fabanod, lle mae hi’n siarad Cymraeg wrth ddangos pob symudiad i’r grŵp. “Rydym hefyd yn canu rhigymau i gyd-fynd â’r symudiadau,” meddai. “Er enghraifft, byddwn ni’n adrodd Incy Wincy Spider, gyda’r symudiadau a’r rhyngweithio â’r babanod.
“Rydym hefyd yn sgwrsio drwy gydol y sesiwn, ac rwy’n egluro pwysigrwydd darllen i’r babanod a siarad â nhw. Rydym yn sgwrsio am ba mor anhygoel yw datblygiad ymennydd eu babi yn ystod y flwyddyn gyntaf honno, a sut mae clywed iaith yn amlach o fudd i’w ddatblygiad.”
Mae Rhian hefyd yn hoffi plethu’r byd naturiol i’w sesiynau pan allai. Er enghraifft, yn yr haf, mae hi’n cynnal sesiynau Stori a Chân ar y traeth. Mae hi hefyd wedi trefnu’r sesiynau hyn yn y gorffennol mewn canolfannau hamdden lleol, a hyd yn oed mewn pentref Oes Haearn, Castell Henllys.
“Fel arfer, rwy’n gwneud gweithgaredd crefft sy’n cysylltu â thema llyfr pob sesiwn,” meddai Rhian, “ac rwy’n ceisio chwilio am bethau o’n cwmpas sy’n cyd-fynd â’r stori.” Yn y gorffennol, mae hyn wedi cynnwys casglu blodau a dail i greu gwaith celf gyda theuluoedd, a mynd am dro i weld bywyd gwyllt sy’n ymddangos yn y stori a ddewiswyd ar gyfer y sesiwn.”
Mae’r dull hwn yn gwella mwynhad teuluoedd, yn ogystal â chreu cyfleoedd i sgwrsio (yn Gymraeg ac yn Saesneg) am bethau y gallant eu gweld wrth archwilio eu hardal leol, gan roi cyfle i fabanod glywed iaith newydd a chyflwyno mwy o eirfa Gymraeg i oedolion.
Pŵer rhigwm yng ngwaith Rhian
Mae Rhian yn eiriolwr brwd dros godi ymwybyddiaeth teuluoedd o’r ffaith bod rhannu rhigymau yn ystod blynyddoedd cynnar plentyn yn bleserus ac yn werthfawr ar gyfer eu datblygiad, gan gynnwys yr agosatrwydd a’r ymlyniad sy’n datblygu rhyngddynt a’u teulu.
“Efallai eich bod chi’n meddwl bod pawb yn gwybod Olwynion ar y Bws, ond dydy llawer o bobl ddim.” Meddai, “Mae’r byd wedi newid. Mae’n ymwneud â dychwelyd at y pethau sylfaenol hyn, a helpu pobl i sylweddoli y gallant hwythau hefyd greu eu rhigymau a’u caneuon eu hunain. Nid oes rhaid iddo olygu dim i neb arall. Mae’n ymwneud yn bennaf â’r cysylltiad rhyngoch chi a’ch plentyn.”
Mae Rhian yn ychwanegu: “Gall rhigymau hefyd alw atgofion i deuluoedd. Rwy’n cofio un fam a ymunodd â ni ar gyfer ei sesiwn gyntaf o dylino babanod; gwnaethom ganu hwiangerdd ar y diwedd Heno, heno, hen blant bach, dechreuodd grio.
Dywedodd wrthyf: ‘Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n gwybod unrhyw hwiangerddi. Ond tôn yr un olaf yn gyfarwydd i mi.’ Dywedodd ei bod wedi sylweddoli bod ei mam-gu yn arfer canu iddi pan oedd hi’n fabi. Mae hynny’n dangos pŵer rhigymau. A phŵer straeon.”
Dathlu rhagoriaeth wrth rannu straeon gyda phlant ifanc gan ddefnyddio rhaglenni BookTrust
Roedd Rhian yn un o’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr ‘Rhannwr Straeon y Flwyddyn’ BookTrust ar gyfer 2025, sy’n dathlu gweithwyr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar sy’n defnyddio rhaglenni Dechrau Da BookTrust i gyflwyno manteision llyfrau a darllen i deuluoedd, ac sy’n cael effaith sylweddol ar fywydau plant.
Mae Rhian yn swyddog Cymraeg i Blant gweithredol a gwerthfawr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd i gefnogi ac annog rhieni i gyflwyno’r Gymraeg i’w babanod drwy straeon a rhigymau, ac yn ymgorffori’r rhain yn ei sesiynau dwyieithog tylino ac ioga babanod. Mae gan ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar un o’r rolau mwyaf hanfodol wrth lunio 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, ac mae meithrin cariad gydol oes at lyfrau a rhigymau yn elfen hollbwysig o’r rôl honno.
Dinah Ellis, Rheolwr Cenedlaethol, Cymraeg i Blant
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n rhannu straeon anhygoel, fel Rhian? Enwebwch ef/hi ar gyfer Gwobr Rhannwr Straeon y Flwyddyn BookTrust 2026.