Paratoi i ddechrau yn yr ysgol

Ar y dudalen hon, cewch wybodaeth am sut y gall rhannu llyfrau a straeon helpu i baratoi eich plentyn ar gyfer dechrau’r ysgol, ynghyd ag awgrymiadau da ac argymhellion am lyfrau.

Mae dechrau yn yr ysgol yn amser cyffrous a bydd eich plentyn yn cael llawer o brofiadau newydd. Ond rydym yn gwybod y gall fod emosiynau cymysg hefyd.

Sut gall llyfrau a straeon helpu fy mhlentyn i baratoi ar gyfer yr ysgol?

Mae ymchwil yn dangos bod yna lawer o ffyrdd y gall rannu llyfrau a straeon fod o fudd i blant (dysgwch fwy yma). Dyma bum ffordd allweddol y gall rannu llyfrau a straeon helpu eich plentyn i baratoi ar gyfer mynd i’r ysgol:

1. Gall rannu straeon gyda’ch gilydd eich helpu chi a’ch plentyn i deimlo’n agosach ac yn fwy cysylltiedig

Gall cwtsh tawel gyda chi a llyfr ei helpu i deimlo’n saff. Gall hefyd ddod â moment o lonyddwch i fywyd teuluol prysur, yn enwedig wrth i chi baratoi ar gyfer newid.

2. Gall rannu llyfrau a straeon helpu eich plentyn i ddatblygu sgiliau cymdeithasol cryfach

Gall hyn wneud iddo deimlo’n fwy parod i gyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau pan fydd yn dechrau yn yr ysgol.

3. Mae darllen a rhannu straeon yn helpu i ddatblygu iaith a lleferydd

Bydd cefnogi eich plentyn i gyfathrebu’n well yn ei helpu gyda’r holl ddysgu gwahanol y bydd yn ei wneud yn yr ysgol, gan gynnwys ei helpu i wrando ar ei athrawon a siarad a dweud beth sydd ei angen arno.

4. Gall straeon helpu plant i deimlo’n fwy cyfforddus a hyderus wrth setlo yn yr ysgol

Mae llyfrau plant yn cwmpasu llawer o bynciau gwahanol, o baratoi yn y bore, i sut beth yw diwrnod yn yr ysgol. Gall y rhain helpu eich plentyn i ymgyfarwyddo â rhannau gwahanol o fywyd yn yr ysgol a’i harferion. Parhewch i ddarllen i gael rhai argymhellion ar gyfer llyfrau a fydd yn eich helpu i ddechrau arni!

5. Gall llyfrau a straeon gychwyn sgyrsiau ac annog eich plentyn i rannu ei deimladau am ddechrau yn yr ysgol.

Efallai y bydd gan eich plentyn deimladau cymysg am y newid. Gall rannu llyfrau a straeon eich helpu chi i siarad am y teimladau hynny gyda’ch gilydd a chynnig sicrwydd i’ch plentyn, os bydd angen.

Helpu eich plentyn i baratoi

Sut beth fydd darllen a rhannu straeon yn yr ysgol? Sut alla’ i helpu fy mhlentyn i baratoi?

Mae rhai rhieni a gofalwyr yn dweud wrthym eu bod nhw’n dechrau meddwl neu hyd yn oed yn poeni am yr hyn y mae angen i’w plentyn ei wybod cyn iddo ddechrau yn yr ysgol.

Mae athrawon yn deall y bydd plant ar gamau gwahanol o ran eu darllen, a byddan nhw’n cefnogi eich plentyn drwy gydol ei amser yn yr ysgol. Bydd eich plentyn yn dysgu’r sgiliau i ddarllen unwaith y bydd yn dechrau, ond yr hyn y gallwch chi ei wneud nawr yw ei helpu i baratoi a theimlo’n gyffrous.

Mwynhau a chael hwyl yn rhannu straeon a llyfrau gyda’ch plentyn yw un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i’w helpu i baratoi.

Bydd gweld llyfrau yn rhywbeth i’w fwynhau yn ei helpu i ddysgu, yn enwedig pan fydd yn dechrau darllen ar ei ben ei hun. Hefyd, mae ein hymchwil yn dweud wrthym fod mwynhau darllen hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eich plentyn yn gwneud yn dda yn ei holl bynciau eraill yn yr ysgol hefyd.

Awgrymiadau ar gyfer darllen gyda’ch gilydd

Y cam cyntaf i gael hwyl gyda llyfrau a straeon yw dod yn gyfarwydd â nhw, o ddal llyfr a throi’r tudalennau, i wrando ar y stori. Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu os nad ydych chi’n darllen eich hun, edrychwch ar y lluniau gyda’ch gilydd. Mae siarad amdanyn nhw’n wych hefyd. Darllenwch rai o’n hawgrymiadau isod am fwy o ffyrdd o gael hwyl gyda’ch gilydd!

Does dim ffordd gywir neu anghywir o rannu llyfrau a straeon gyda’ch plentyn, felly hyd yn oed os yw’n rhywbeth rydych chi’n ei wneud am y tro cyntaf, gallwch chi roi cynnig ar bethau gwahanol a gweld beth sy’n addas i chi a’ch teulu. Gall ychydig funudau’r diwrnod pryd bynnag y bydd cyfle fod yn ddechrau da. Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, mae rhai syniadau yn ein llyfryn Darllen gyda’ch plentyn i rieni plant 4–6oed.

Mae’n bwysig dod o hyd i lyfrau y gall eich plentyn uniaethu â nhw, yn enwedig os nad yw’n frwdfrydig iawn am ddarllen ar y funud. Felly, p’un a yw wrth ei fodd gyda deinosoriaid, pryfed, neu gerbydau, gall fod yn ddefnyddiol i chi edrych drwy ein Chwilotwr llyfrau gyda’ch gilydd i chwilio am lyfrau ar themâu a phynciau y bydd eich plentyn yn eu mwynhau.

Gallech chi hyd yn oed annog eich plentyn i gadw llygad allan am ei hoff lyfrau a chymeriadau ymhlith y llyfrau yn yr ysgol, a siarad â’i ffrindiau newydd a’i athrawon am yr hyn mae’n ei hoffi.

Gall cwestiynau fel Beth wyt ti’n credu gallai ddigwydd nesaf?’ neu Beth wyt ti’n credu mae’r cymeriad yna’n ei wneud?’ wneud i’ch plentyn feddwl. Gadewch iddo arwain y sgwrs a gofyn cwestiynau hefyd!

Gallwch chi ddefnyddio lleisiau gwahanol neu dynnu wynebau doniol i chwarae cymeriad. Beth bynnag sy’n ei gwneud yn hwyl i’r ddau ohonoch chi. Os yw eich plentyn yn hoffi rhigymau neu gyfrif, efallai y bydd yn mwynhau llyfrau sy’n cyflwyno geiriau neu rifau newydd mewn ffordd ddifyr.

Gallech chi wneud hyn yn gyntaf drwy edrych ar luniau a gofyn sut mae’r cymeriadau’n teimlo am sefyllfaoedd gwahanol yn y stori. Gallwch chi hefyd edrych am lyfrau am gyfeillgarwch; neu rai sy’n annog plant i siarad amdanyn nhw eu hunain.

Neiniau/​teidiau, modrybedd neu frodyr/​chwiorydd – po fwyaf y bobl y bydd eich plentyn yn eu gweld yn darllen, y mwyaf awyddus y bydd i ddarllen hefyd.

Yn ogystal â chael rhywbeth i edrych ymlaen ato, mae’n helpu i gael trefn gyson y gallwch chi barhau ag ef unwaith y bydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol, gan helpu i ymlacio ar ôl diwrnod prysur. Darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer trefn amser gwely.

Cofiwch fod llawer o ffyrdd gwahanol o gynnwys darllen a rhannu straeon yn eich bywyd o ddydd i ddydd, p’un ai drwy sesiwn grŵp adrodd stori yn eich llyfrgell leol, drwy fynd â’ch hoff lyfr gyda chi i’r parc neu drwy ailddarganfod un o’ch hoff straeon eich hun o’ch plentyndod.

Gwyliwch ein fideo i weld sut mae teuluoedd eraill yn mwynhau’r hud o rannu straeon gartref

Mae darllen yn bwysig i ni fel teulu gan ei bod e’n gyfle i ni gwtshio ar y soffa. Rydyn ni’n chwerthin lot fawr

Mam, Cymru

Unwaith y bydd eich plentyn yn dechrau ysgol

Megis dechrau ydyw mewn gwirionedd! Wrth i’ch plentyn symud drwy’r ysgol, bydd gwahanol gyfnodau o ddysgu o ran darllen, gan gynnwys dysgu sut i ddarllen ar ei ben ei hun.

Ond cofiwch gymryd amser o hyd ar gyfer yr eiliadau arbennig hynny gyda’ch gilydd i ymlacio gyda hoff lyfr. Bydd parhau i fwynhau darllen a rhannu straeon gyda’ch plentyn unwaith y bydd ysgol yn dechrau yn bwysig o ran ei ddysgu a’i berthnasoedd a bydd yn cefnogi ei les ehangach nawr ac yn y dyfodol.

Adnoddau defnyddiol ac argymhellion llyfrau

Nid yw rhai o’r dogfennau yn y dolenni ar gael yn ddwyieithog eto.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael gwybodaeth ddiweddaraf BookTrust drwy gofrestru ar gyfer un o’n cylchlythyrau a chael erthyglau gwych, cystadlaethau a’r newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Ymuno â ni