Sut i gael eich plentyn bach i gysgu

Awgrymiadau gwych ar gyfer setlo plant bach, o 0-48 mis.

Kate Alizadeh's bedtime illustration

Oeddech chi’n gwybod bod yna gysylltiad rhwng cael trefn amser gwely nosweithiol rheolaidd a gwell cwsg ymhlith plant ifanc? Rydyn ni o’r farn nad oes yna unrhyw beth gwell na chwtsio a rhannu stori gysurlon amser gwely i’w hanfon yn hapus i wlad cwsg.

Ond rydyn ni’n deall pa mor flinedig y mae brwydrau amser gwely’n gallu bod. Dyna pam ein bod ni wedi dyfeisio Bath, Llyfr, Gwely: ateb syml i nosweithiau di-gwsg.

Lawrlwythwch ein llyfryn Bath, Llyfr, Gwely (Saesneg yn unig)

Neu, os ydych chi ar frys, cliciwch ddolenni’r gwymplen isod am awgrymiadau a chyngor arbenigol ynglŷn â sut i gael eich babi newydd-anedig a hŷn neu’ch plentyn bach i setlo.

Sut i gael eich plantos bach i gysgu

 

Sut i gael eich plentyn bach i gysgu

  • Awgrymiadau gwych ar gyfer setlo’ch babi newydd-anedig (0-2 fis)

    Mae angen bwydo babis newydd-anedig mor rheolaidd fel ei bod hi’n annhebygol y byddan nhw’n cysgu am fwy na 3-4 awr ar y tro rhwng pob sesiwn fwydo, ac yn aml iawn fe fydd yn llai na hynny.

    Yn y cyfnod cynnar hwn fe fydd eich amser i gyd fwy neu lai’n mynd ar fwydo a thorri gwynt eich babi ac yn ei setlo yn ôl i gysgu, ac yna’n ceisio cael ychydig o gwsg eich hun.

    Peidiwch â rhoi eich hun dan unrhyw bwysau i wneud pethau mewn ffordd benodol. Mae’n siŵr y bydd pobl o’ch cwmpas â llond trol o ddamcaniaethau ynglŷn â’r hyn y dylech chi fod yn ei wneud – ond y peth pwysicaf y dylech chi fod yn ei wneud ydy gorffwys gymaint ag y gallwch, rhoi llawer o fwythau i’ch babi, a gwneud beth bynnag sydd ei angen ar eich babi am y tro.

    Bath

    Hyd nes bod llinyn y bogail wedi sychu, rhowch lyfiad sydyn i’ch babi â gwlanen neu sbwng cynnes. Gwnewch yn siŵr bod yr ystafell ymolchi’n gynnes, ac nad oes yna unrhyw ddrafftiau neu wynt o unrhyw ffan yn chwythu arno. Tynnwch eich gemwaith i osgoi crafu’ch babi.

    Golchwch eich babi mewn dau gam: ei gorff yn gyntaf ac yna’i ben. Golchwch y pen yn olaf gan mai dyna lle mae’r rhan fwyaf o wres yn cael ei golli. Golchwch nhw yn lân â gwlanen gynnes ac yna patio’r croen yn sych.

    Pan fydd hi’n amser cael bath go iawn, cynheswch yr ystafell ymolchi a llenwch fath y babi ag ychydig fodfeddi o ddŵr cynnes. Profwch dymheredd y dŵr â’ch penelin.

    Daliwch eich babi uwchben y bath, gan gynnal ei wddf â bawd a bys cyntaf un law. Gyda’r llaw arall, golchwch ei ben â sebon hylif mwyn dibersawr i fabis. Yna rhowch y babi yn y bath, gan gynnal ei wddf â rhan waelod eich braich, a magwch y corff.

    Llyfr

    Mae babis yn caru llyfrau. Fe allwch chi ddarllen i’ch babi newydd-anedig ar bob cyfrif, er ei fod yn rhy fach i allu deall beth rydych chi’n ei ddweud. Mae’r profiad o gwtsio a gwrando ar eich llais yn gallu helpu’ch babi i ymlacio. Ac mae’n wych ar gyfer creu perthynas gariadus rhwng y ddau ohonoch chi.

    Defnyddiwch lyfrau du a gwyn â lluniau amlwg gan y bydd eich babi’n gallu gweld y rhain yn well. Mae’r BookTrust yn dosbarthu’r rhain, yn ogystal â phecynnau Dechrau Da Babi sydd â llyfrau rhad ac am ddim; cofiwch gasglu un oddi wrth eich ymwelydd iechyd, eich llyfrgell neu ganolfan blant. A rhowch gynnig ar lyfrau meddal y bydd eich babi’n gallu cyffwrdd ynddyn nhw a chwarae gyda nhw. Gallwch chi hefyd edrych ar restr y BookTrust o’r Llyfrau Gorau ar gyfer Amser Gwely.

    Gwely

    Fe allech chi lapio’ch babi – fe ddylai’ch ymwelydd iechyd neu fydwraig allu dangos ichi sut i wneud hyn, neu fe allwch chi ddilyn canllawiau ar gyfer lapio’n gywir ac yn ddiogel. Mae lapio’ch babi’n gwneud iddo deimlo’n glyd a diogel. Mae’n llai tebygol o ddeffro’i hun â’i symudiadau ei hun.

    Rhoi babi sy’n cysgu i orwedd...

    Pan fydd y babi wedi syrthio i gysgu yn eich breichiau ac rydych chi eisiau ei roi i orwedd heb ei ddeffro, symudwch yn araf. Rhowch ei ben i lawr yn dyner. Yna rhowch weddill ei gorff i lawr fel ei fod ar ei gefn gyda’ch llaw chi’n dal i fod oddi tano.

    Fe ddylech chi bob amser ei roi i gysgu ar ei gefn i leihau’r risg o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod – SIDS.

    Rhowch draed eich babi ar ben gwaelod y cot i’w rwystro rhag symud o dan y blancedi a gwnewch yn siŵr mai at ganol y babi y mae’r cynfasau hynny’n dod. Gwnewch yn siŵr nad ydy’r ystafell y mae’ch babi’n cysgu ynddi yn rhy boeth nac yn rhy oer. O gwmpas 18-19 gradd canradd ydy’r tymheredd perffaith.

  • Awgrymiadau gwych ar gyfer setlo’ch babi (2-12 mis)

    Mae’n bosibl y bydd eich babi’n cysgu drwy’r nos rywbryd yn ystod y cyfnod hwn. Fe fydd hyn yn digwydd pan fydd y babi’n dechrau bwyta bwyd llwy – fwy na thebyg o gwmpas y 4-6 mis ac ymlaen. Neu, fe fydd yn sicr yn cysgu am gyfnodau hirach o leiaf, ac yn deffro’n llai aml yn y nos. Dyma rai awgrymiadau a fydd yn dangos ichi sut i gael eich babi i gysgu:

    • Caewch y llenni neu’r bleinds fel y byddech chi’n gwneud yn y nos.
    • Rhowch ddillad llac am y babi fel ei fod yn gyfforddus i gysgu.
    • Gwnewch yn siŵr bod ei flanced gyfarwydd a thegan anwes ganddo fel arfer wrth gysgu.

    Bath

    Mae trefn amser gwely dda yn golygu gweithgareddau cyson sy’n tawelu’ch babi. Mae’n bosibl bod babis yn ymlacio’n braf yn y bath ac fe all hyn fod o help i’ch plentyn cyn ichi ei roi yn y gwely.

    Cyn ichi roi’ch babi yn y bath, gallech chi osod cannwyll bersawrus yn yr ystafell ymolchi fel bod yr arogleuon tawelol yno yn ystod ei fath. Symudwch y gannwyll oddi yno cyn amser y bath a rhowch ddillad gwely’r babi ar wresogydd cynnes, os ydy hi’n oer. Bydd eich babi’n glyd a chwtslyd unwaith y mae wedi’i wisgo’n barod i fynd i’r gwely.

    Bydd canu rhigymau a hwiangerddi gyda’ch babi yn y bath yn helpu hefyd. Bydd clywed geiriau sy’n odli’n ei helpu’n ddiweddarach pan fydd yn dechrau darllen. Bydd ffefrynnau fel ‘Seren Fechan’ yn cysuro’ch babi cyn cysgu.

    Unwaith rydych chi wedi gorffen yn y bath, sychwch y babi’n dyner a rhwbio’i groen mewn modd rhythmig gysurlon ag olew naturiol neu hylif lleithio.

    Llyfr

    Fel rhan o drefn amser gwely, fe fydd eich babi wrth ei fodd yn cwtsio a chlywed eich llais. Fe fydd yn gwybod ei bod hi’n amser tawelu’n barod i fynd i gysgu.

    Mae llyfrau lliwgar gydag arwynebau braf i’w cyffwrdd yn gweithio’n dda. Yn y cyfnod hwn, mae babis yn mwynhau chwarae gyda’u llyfrau – anogwch nhw i gyffwrdd y llyfr wrth ei ddarllen.

    Yn dilyn y rhigymau yn y bath, ewch ati i ddewis llyfrau sydd â rhythm ac sy’n ailadrodd. Dywedwch y geiriau’n arafach na fyddech chi wrth siarad fel arfer i helpu’ch babi i glywed y synau rydych chi’n eu gwneud.

    Mae gennyn ni ddewisiadau perffaith yn ein rhestr o’r Lyfrau Gorau ar gyfer Amser Gwely. Neu darllenwch hoff lyfr eich babi drosodd a throsodd. Rhowch gynnig ar ddefnyddio lleisiau doniol a gwneud synau gwirion.

    Gwely

    Rhowch eich babi yn y gwely yr un amser bob nos. Fe ddylech chi wneud hyn hyd yn oed os ydych chi’n gwybod ei fod yn mynd i godi yn y nos. Rydych chi’n gosod trefn a fydd yn helpu i wneud amser gwely rheolaidd yn haws ichi yn y dyfodol.

    Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn bach yn cael digon o awyr iach bob dydd. Mae’n hawdd gwneud tro i’r siop neu’r llyfrgell yn rhan o drefn eich diwrnod.

    Meddyliwch am ymarfer corff hefyd – ydy’r babi’n eistedd mewn cadair drwy’r dydd? Ceisiwch wneud yn siŵr ei fod yn cael digon o amser ar y mat/ yn cropian – neu hyd oed yn chwarae â phethau meddal pan fydd ychydig yn hŷn. Fe fydd hyn yn ei flino ac mae hefyd yn bwysig iawn ar gyfer ei ddatblygiad.

    Mae cwsg yn ystod y dydd yn bwysig hefyd. Yn eironig, mae plant sydd wedi gorflino’n aml yn ei chael hi’n fwy anodd cysgu’n dda yn y nos. Fe fydd cwsg bach yn ystod y dydd yn gymorth mawr – os ydyn nhw wedi gorffwys, fyddan nhw ddim yn orfyrlymus ag adrenalin. Fe ddylai amser gwely ddod cryn dipyn yn haws i bawb.

  • Awgrymiadau gwych ar gyfer setlo’ch plentyn bach (4-48 mis)

    Mae trefn amser gwely’n gyfnod bach cysurlon a chariadus sy’n paratoi eich plentyn ar gyfer noson iach o gwsg. Fe fydd eich plentyn bach yn mwynhau cael eich sylw chi i gyd iddo’i hun mewn ffordd nad yw’n cael yn ystod y dydd.

    I wneud yn siŵr bod eich plentyn bach yn cael noson dda o gwsg, glynwch at amser gwely cyson. Mae angen i blentyn bach gael 12-14 awr o gwsg mewn cyfnod o 24 awr, gan gynnwys cwsg bach yn ystod y dydd. Gwnewch yn siŵr bod amser gwely 12 awr cyn yr amser y mae’n tueddu i ddeffro. Os ydy’r plentyn yn arfer codi am 7am, mae angen bod yn y gwely am 7pm.

    Mae paratoi ar gyfer y drefn amser gwely yn allweddol. Paratowch gymaint â phosibl o flaen llaw: rhowch y pyjamas yn barod, paratoi’r clwt a thywallt y llaeth. O’i wneud felly, fydd yna ddim byd i dynnu’ch sylw a tharfu ar lyfnder trosglwyddo’ch plentyn o’r bath i’r gwely. Fe fydd yr awgrymiadau hyn yn rhan allweddol o sut i gael eich plentyn bach i gysgu.

    Bath

    Amser bath sy’n dechrau’r drefn amser gwely. Mae’n helpu’ch plentyn i gael gwared â’r mymryn olaf o egni cyn ichi ddechrau creu awyrgylch sy’n rhoi cyfle i’ch plentyn ymlacio.

    Ar ôl y bath, crëwch awyrgylch tawel a llonydd trwy ddiffodd pob technoleg fel nad oes unrhyw beth i dynnu sylw. Yn ddelfrydol, ni ddylai fod yna set deledu yn yr ystafell wely. Neu, os oes yna, gwnewch yn siŵr ei bod wedi’i diffodd.

    Llyfr

    Ewch i ystafell wely’ch plentyn a chreu awyrgylch tyner. Tynnwch y bleinds, caewch y llenni, rhowch y golau’n isel, cyneuwch olau nos neu lamp â golau isel a dechreuwch siarad yn fwy tyner a thawel.

    Mae’n bosibl bod gan eich plentyn hoff degan neu flanced y mae am ei gwtsio. Efallai ei fod yn cael llaeth amser gwely bryd yma hefyd. Os ydy’ch plentyn yn cael llaeth, gall bwyso yn eich erbyn wrth ei yfed sy’n ei wneud yn glyd a chwtslyd.

    Nawr, darllenwch lyfr neu ddau – mae yna ddewisiadau perffaith yn rhestr Llyfrau Gorau ar gyfer Amser Gwely’r BookTrust. Neu fe allwch chi adrodd stori rydych chi wedi’i dyfeisio’ch hun ac ychwanegu ati dros amser. Mae plantos bach wrth eu boddau pan fyddwch chi’n cynnwys eu henwau: ‘Roedd yna long o fôr-ladron, a Thywysog hwn-a-hwn oedd yn ei llywio...’

    Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon hyderus i greu’ch straeon eich hun – fe fydd eich plentyn wrth ei fodd yn gwrando arnoch chi beth bynnag! Os na allwch chi feddwl am rywbeth i’w ddweud, soniwch am eich diwrnod gan orliwio’r gwir. Os ydych chi wedi bod yn chwarae y tu allan gyda’ch gilydd, dywedwch stori am ymweld â gardd anhygoel. Neu, os ydych chi wedi bod yn y gwaith, beth am adrodd stori am sut yr aeth eich trên i barc saffari.

    Gwely

    Gosodwch y dillad gwely’n glyd o gwmpas eich plentyn a’i adael yno’n llawn meddyliau hapus, heddychlon. Atebwch unrhyw gwestiynau sydd ganddo a gofynnwch os oes unrhyw beth yr hoffai ei ofyn ichi. Mae’n bwysig ei fod yn teimlo’n ddiogel ac yn saff, yn gwybod ei fod wedi’i warchod a’ch bod yn ei garu cyn ichi adael yr ystafell. A nawr – ychydig o amser i ‘chi’!

    Pethau ddim yn mynd yn ôl y disgwyl? Os ydych chi’n gallu cael eich plentyn bach i gysgu ond bod ei gadw yn y gwely’n broblem, ewch i weld yr atebion i gwestiynau cyffredin.

Camau bach at well noson o gwsg

Y llyfrau gorau ar gyfer amser gwely

Y llyfrau gorau ar gyfer amser gwely

Darganfyddwch ein rhestr o lyfrau a ddewiswyd yn arbennig ar gyfer amser Bath, Llyfr, Gwely.

Llyfrau ac arferion amser gwely

Rhowch gynnig ar y drefn Bath, Llyfr, Gwely: camau syml tuag

Camau bach at well noson o gwsg. Rydym ni'n deall mor flinderus y gall brwydrau cyn cysgu fod. Dyna pam rydym ni wedi dyfeisio Bath, Llyfr, Gwely: ateb syml i nosweithiau di-gwsg.

Twitter